MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hwylusydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd CC/2546

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hwylusydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd

Lleoliad: Iâl/Bersham

Math o Gontract: Tymor Sefydlog (Ionawr 2025), Llawn Amser

Cyflog: £25,461 - £29,380

Mae Coleg Cambria ar hyn o bryd yn chwilio am Hwylusydd Llyfrgell a Sgiliau Academaidd i ymuno â'n tîm yn Iâl a Bersham.

Dyma gyfle arbennig i weithio â thîm cadarn yng Ngholeg Cambria. Byddwch yn cynorthwyo i gyflwyno sgiliau astudio sy'n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd a chyflawni. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o'r rhwystrau y gall dysgwyr eu hwynebu, gan ddefnyddio strategaethau cymorth a all wneud gwahaniaeth. Byddwch yn darparu sesiynau grŵp ar sgiliau astudio allweddol ac yn hwyluso ystod o weithgareddau dysgu. Agwedd bwysig o'r swydd fydd cynorthwyo dysgwyr mewn sefyllfa un i un, gan annog deialog a datblygu strategaethau ar gyfer creu amcanion cadarnhaol drwy ymyrraeth ofalus.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag Anogwyr Cynnydd, tiwtoriaid a staff allweddol eraill a byddwch yn darparu adborth ar gynnydd dysgwyr, yn diweddaru adroddiadau a data yn ôl yr angen. Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm. Byddwch yn cynorthwyo â gweithgareddau mewn amgylchedd dysgu prysur a chymryd cyfrifoldeb dros agweddau allweddol y gwasanaeth. Bydd gennych sgiliau TG ardderchog a byddwch yn gyfforddus wrth ddefnyddio technolegau addysgol ac yn annog eraill i ddatblygu eu cymwyseddau digidol eu hunain. Byddwch yn mwynhau gweithio a chynorthwyo ystod amrywiol o ddysgwyr ac yn gyfforddus gyda dysgwyr o bob gallu.

Os ydych yn angerddol am drawsnewid bywydau pobl ifanc, a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg, yna hoffem glywed gennych chi.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 neu uwch
  • Profiad amlwg o gynorthwyo dysgwyr mewn cyd-destun addysgol
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant a sesiynau cymorth diddorol
  • Gwybodaeth am strategaethau dysgu a gwahaniaethu i gynorthwyo cynnydd dysgwyr unigol
  • Defnyddio technolegau yn effeithiol i gynorthwyo dysgu
  • Mae'n hanfodol bod gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd cadarn Lefel 2 neu'n uwch
  • Byddwch yn gallu defnyddio rhaglenni MS Office ac yn ddelfrydol rhaglenni Google a defnyddio'r rhyngrwyd
  • Bydd disgwyl i chi ddangos brwdfrydedd dros rymuso a galluogi pobl ifanc
  • Mae'n hanfodol fod gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, eich bod yn aelod cadarn o dîm a'ch bod yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai