MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Gynradd Myfenydd

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae'r Llywodraethwyr am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 i gydweithio gyda staff a disgyblion o fewn y Dosbarth Dysgu Sylfaen. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda phlant ar draws y dosbarth gan hybu sgiliau ac iaith yr unigolion gan hefyd sicrhau lles, gofal a datblygiad pob plentyn o fewn amgylchedd byrlymus y dosbarth. Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ffodus o gael cydweithio gyda athrawes a chynorthwywyr profiadol eraill. Byddai profiad o fewn y maes ADY a TGCh yn fanteisiol gyda'r cyfle i gyfrannu tu hwnt y dosbarth. Mae y gallu i ddefnyddio Cymraeg o safon yn hanfodol i'r swydd.

Mae hon yn swydd llawn amser, 30 awr, dros gyfnod mamolaeth ac i ddechrau mor gynted a phosib.

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol Myfenydd yn ysgol 4 - 11 oed, gyda 84 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ein gweledigaeth yw darparu cyfleon a mynediad at cwricwlwm eang, diddorol ac ysbrydoledig er mwyn datblygu dysgwyr annibynnol, effeithiol, brwdfrydig, dwyieithog, a'u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.

Dyddiad cyfweliad: mor agos a phosib i'r dyddiad cau.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth, Miss Anwen James ar prif@myfenydd.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy