MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 - Blynyddoedd Cynnar

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Parc Acton

Lôn y Bwth

Wrecsam

LL12 8BT

01978 318950

Pennaeth - Mr J Roberts

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1

CYFNOD MAMOLAETH YN Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

20 awr yr wythnos (yn cynnwys 5 awr o ddyletswyddau Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd)

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 - 15 awr yr wythnos - Graddfa 03 - £7,707 - £7,835 y flwyddyn

Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd 5 - awr yr wythnos - Graddfa 02 - £11.59 yr awr

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 26 Chwefror am hanner dydd

CYFWELIADAU: Dydd Llun 4 Mawrth

I gychwyn ddydd Llun 15 Ebrill.

Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Parc Acton yn dymuno penodi cymhorthydd addysgu profiadol sydd wedi cymhwyso'n addas i weithio o dan gyfarwyddyd staff addysgu/uwch staff i hwyluso cyfleoedd dysgu ac addysgu a gynlluniwyd ar gyfer ein plant Blynyddoedd Cynnar.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
• Hwyluso cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar chwarae yn y dosbarth a thu hwnt i'r dosbarth.
• Asesu anghenion unigol disgyblion a gwahaniaethu tasgau a chwestiynu i hyrwyddo dysgu.
• Sefydlu perthnasau gwaith cynhyrchiol â disgyblion, gan fod yn esiampl iddynt a gosod disgwyliadau uchel
• Cefnogi disgyblion yn gyson gan gydnabod ac ymateb i'w anghenion unigol
• Annog disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol ag eraill a chynnwys pob disgybl mewn gweithgareddau, e.e. yn ystod integreiddio cynlluniedig ac amseroedd chwarae heb eu cynllunio
• Hyrwyddo annibyniaeth a gweithredu strategaethau i gydnabod a gwobrwyo cyflawniad hunanddibyniaeth.
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad

Mae'r swydd hon hefyd yn cynnwys goruchwylio'r plant dros amser cinio am awr bob dydd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT Y DIRPRWY BENNAETH YN YR YSGOL

Sylwer bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bod angen cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.