MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymorth i Ddysgwyr Gofal Bugeiliol (Ysgol Eglwys Yng Nghymru Y Trallwng)

Cyngor Sir Powys
Cymorth i Ddysgwyr Gofal Bugeiliol (Ysgol Eglwys Yng Nghymru Y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi cynorthwyydd i ddarparu cymorth i ddysgwyr, gyda chyfrifoldeb am ofal bugeiliol.

Byddwch yn atebol i'r Pennaeth, ac yn cydweithio gyda'r staff dysgu; bydd y swydd yn cyfrannu at ymddygiad da cyffredinol yn yr ysgol, ac yn benodol yn y Rhaglen Magu Plant, gan gynnwys rheoli ymddygiad, a hyrwyddo lles a chynnydd a chyraeddiadau cyffredinol dysgwyr trwy:

  • ddarparu cymorth rheng flaen i ddysgwyr o ran materion bugeiliol
  • darparu cymorth o ran presenoldeb, ymddygiad ac addysg i ddysgwyr
  • darparu cysylltiad strategol rhwng yr ysgol ac asiantaethau eraill a rhieni/gofalwyr

Bydd y swydd yn golygu rheoli llwyth achosion o ddysgwyr a bennwyd.

Byddai cymwysterau a phrofiad mewn ymarferion Thrive, ELSA, TIS a/neu Nurture UK yn ddymunol.

Rydym yn croesawu trafodaethau anffurfiol neu ymweliadau, trwy drefnu ymlaen llaw gyda'r Pennaeth, Mrs Lorna Tuffin Rhif ffôn: 01938 538 660

Ar gyfer ffurflen gais a manylion llawn y swydd, ffoniwch 01597 826409 (24 awr); neu anfonwch ebost at: recruitment@powys.gov.uk ; neu gellir ymgeisio ar-lein yma: