MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 dros dro i ddechrau cyn gynted â phosibl.

Mae'r swydd ar gyfer 26.15 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: Dydd Llun - Dydd Gwener 9am-3pm: serch hynny gellir trafod yr oriau hyn.

Bydd angen i chi gael y cymwysterau priodol ag o leiaf TGAU mewn Saesneg a Mathemateg; bydd angen i chi fod yn ymroddedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol, gorau oll yn arwain at NVQ 2.

Byddai'n fanteisiol cael profiad cyfredol o weithio â phlant ag anghenion addysgiadol arbennig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dim yr ysgol, gan weithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athrawon dosbarth trwy'r ysgol gyfan.

Bydd y cynorthwywyr addysgu yn cefnogi'r athrawon dosbarth ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion neu grwpiau unigol; dfallai y byddant yn darparu gofal priodol i'r rhai sy'n ddibynnol yn bersonol ar oedolion am eu hanghenion sylfaenol. Gall hyn gynnwys diwallu eu hanghenion toiled ynghyd â chodi a chario cysylltiedig. Mae'r swyddi yn gofyn am agwedd ymroddedig a hyblyg gan fod lles ein holl ddisgyblion yn bwysig iawn.

Gallwch wneud cais am y swyddi hyn ar-lein yn www.powys.gov.uk neu gallwch ofyn am ffurflen gais oddi wrth Gyngor Sir Powys.

Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2024

Cyfweliadau: I'w cadarnhau

Mae'r swyddi'n amodol ar gwblhau'r gwiriadau diogelu canlynol yn foddhaol:
  • Geirdaon
  • Cais DBS
  • Copïau o gymwysterau
  • Cofrestriad CGA