MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £9.69 - £9.69
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu

Coleg Sir Benfro
Mae Coleg Sir Benfro yn chwilio am Gynorthwywyr Cymorth Dysgu i gynorthwyo dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac anableddau, i gyflawni eu dyheadau gyrfa a'u rhaglen astudio. Oherwydd tangynrychiolaeth rhyw yn y tîm, mae croeso arbennig i ymgeiswyr gwrywaidd.


Manylion Cyflog: £18,637 (pro rata) sy'n cyfateb i £9.69 yr awr

Math o Gontract: Mae swyddi llawn-amser (30 awr yr wythnos), ffracsiynol (llai na 30 awr yr wythnos), swyddi parhaol a thymor penodol ar gael

Cymwysterau: TGAU Mathemateg a Saesneg gradd A-C neu gyfwerth yn hanfodol

Manylion:
Rydym yn chwilio am nifer o ymgeiswyr sydd â phrofiad o gefnogi unigolion ag ystod o Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'n hanfodol bod ganddynt addysg o safon dda a sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf, ynghyd â sgiliau TG, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Ar hyn o bryd darperir cymorth naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy blatfform dysgu ar-lein y Coleg, felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau TG cryf. Byddai gwybodaeth am dechnoleg gynorthwyol yn fanteisiol.
Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd tîm. Bydd gan yr ymgeisydd a ffefrir brofiad o gefnogi dysgwyr ag Awtistiaeth a phroffiliau ymddygiad cysylltiedig. Efallai y bydd gofyn iddynt ymgymryd â gofal personol.
Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu’n arbennig geisiadau gan: ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da, gydag anableddau, o bob rhyw, Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / ac ymgeiswyr rhannu swydd.
Mae'n ofynnol i holl weithwyr y Coleg ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed.


JOB REQUIREMENTS
Gweler yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd atodol am fanylion pellach am y swydd.