MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro \/ Athrawes Gwyddoniaeth - Ysgol Dyffryn Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Yn eisiau erbyn mis Medi 2024

Athro / Athrawes Gwyddoniaeth (hyfforddi fel athro Uwchradd)

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)

Graddfa Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1-2 (£20,674- £23,078 y flwyddyn)

********************************

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddarpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd un ai'n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno ag Ysgol Dyffryn Conwy, gan y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol mewn maes dysgu sydd ar flaen y gad mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru ac wrth greu adnoddau ysbrydoledig. Y mae i'r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN:

Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
  • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
  • Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
  • Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2026 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach am y rhaglen e-bostiwch Tîm PGE Cymru ar TARCymru@open.ac.uk neu ewch i TAR | Cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion | Y Brifysgol Agored (open.ac.uk)
  • Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd.
  • Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach.
  • Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk

(This is an advertisement for an opportunity to train as a secondary Science teacher through the Open

University at Ysgol Dyffryn Conwy. All candidates are required to be fluent in both Welsh and English).

This form is also available in English:

https://webrecruitment.secure.conwy.gov.uk/itlive_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=771951DBXU&VACANCY_ID=808915E9Jf