MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff , Cardiff, CF10 3NQ
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Digyflog
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynllun Pontio

Cynllun Pontio

Llywodraeth Cymru
Mae nifer o swyddi ar gael ar gyfer Athrawon Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu mewn ysgol uwchradd am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.

Mae’r cynllun yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Lleoliadau:
Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Caerfyrddin, Castell Nedd Port Talbot, Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Caerdydd.


Proses ymgeisio:
Llenwch y ffurflen gais a’i chyflwyno erbyn dydd Gwener 23 Chwefror 2024.
Gofynnir ichi enwi tair ysgol, yn nhrefn eich dewis, yr hoffech hyfforddi ynddyn nhw; os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn hwyluso'r lleoliad hwn i chi.