MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Gweithredol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,531 - £29,427
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Ionawr, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Swyddog Achredu ac Ansawdd

Swyddog Achredu ac Ansawdd

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio'n rhan o dîm bach, bydd y Swyddog Achredu ac Ansawdd yn darparu arbenigedd a chymorth gweinyddol i'r Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a'r maes gwasanaeth hwn. Bydd hyn yn cynnwys gwneud trefniadau ymarferol ar gyfer asesiadau, dosbarthu papurau, cymryd cofnodion, cynhyrchu adroddiadau, trefnu adolygiadau i'r Bwrdd, datblygu gweithdrefnau yn ogystal â gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer aelodau'r Bwrdd, partneriaethau AGA a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau trefnu a rhyngbersonol rhagorol, a phrofiad o ymdrin ag amrywiol ymholiadau, cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd ffurfiol, a rheoli a chynnal perthnasoedd gyda rhanddeiliaid. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

JOB REQUIREMENTS
Ewch i'r wefan i gael mwy o wybodaeth