MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Sir Gar
Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Application Deadline: 15 February 2024

Department: Iechyd, Gofal, Sylfaen a Mynediad

Employment Type: Parhaol - Rhan Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Iechyd, Gofal a Chynghori

Compensation: £24,490 - £44,110 / blwyddyn
DescriptionMae dysgwyr o fewn y Gyfadran yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgarwch allgyrsiol a chânt eu cefnogi gan system diwtorial sefydledig.Mae'r rhaglenni Gofal a Chynghori wedi'u lleoli'n bennaf ar Gampws Rhydaman tra bod Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u lleoli ar Gampws y Graig.

Bydd gan ymgeiswyr ymrwymiad i welliant parhaus, byddant yn cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm, yn cynorthwyo gyda chynllunio a marchnata cyrsiau a byddant yn weithredol o ran recriwtio a chadw dysgwyr. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn weithgar, yn cyflwyno addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac yn creu amgylchedd positif er mwyn galluogi pob dysgwr i gyflawni rhagoriaeth o'r safonau uchaf, gan hwyluso dilyniant i Brifysgol, cyflogaeth a lleoliadau diwydiannol.

Wedi'i leoli ar Gampws y Graig, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am addysgu'n gynhwysfawr, asesu, a chydlynu rhaglenni modiwlau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rôl yn cynnwys datblygu, cynllunio a chyflwyno gwersi arloesol a heriol, ynghyd â chreu cynlluniau gwersi a Chynlluniau gwaith sy'n cyd-fynd â meini prawf a therfynau amser byrddau arholi. Gan sicrhau addysg gynhwysol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mynd ati i wahaniaethu cyrsiau ar gyfer pob dysgwr ac yn olrhain a monitro cynnydd myfyrwyr yn fanwl iawn, gan ddarparu adroddiadau rheolaidd i rieni a Thîm Rheoli'r Gyfadran trwy gydol y flwyddyn academaidd. Yn ychwanegol, mewn cydweithrediad â Phennaeth Iechyd, Gofal a Chynghori, mynd i'r afael â phryderon am ddysgwyr unigol, cyfrannu at brosiectau ysgol/coleg a mentrau recriwtio. Bydd cymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol myfyrwyr, ynghyd â'ch cyfraniad at ddatblygu'r cwricwlwm a marchnata'r cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn chwarae rôl hanfodol wrth feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a diddorol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Fod yn gyfrifol am gyflwyno (ar y safle ac o bell) ac asesu modiwlau iechyd a gofal cymdeithasol i fyfyrwyr ar ystod o raglenni a gynigir gan y gyfadran
  • Cyflawni rôl y Tiwtor Personol;
  • Goruchwylio proses ymgeisio UCAS gan gynnwys cefnogi dysgwyr i wneud cais, derbyn cyfweliadau, mynd drwy'r broses glirio, dod o hyd i gyrsiau eraill, ac ati.
  • Trefnu a monitro cyfleoedd lleoliadau gwaith.
  • Rheoli cwrs yn weinyddol ac arwain tîm cwrs o fewn y gyfadran.
  • Ymwneud â phob agwedd ar systemau rheoli ansawdd y gyfadran gan gynnwys dilysu gwaith asesedig yn fewnol;
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
  • Profiad diwydiannol perthnasol o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
  • Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
Dymunol:
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Gwybodaeth neu brofiad o gystadlaethau World Skills
  • Gwybodaeth neu brofiad o broses UCAS
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad myfyrwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein