MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Penmaes yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion 3-19 oed yn Aberhonddu gyda 111 o ddisgyblion.

Rydym yn falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni ac yna gwneud yn well na'u disgwyliadau. Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Addysgu llawn cymhelliant sydd am wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein disgyblion.

Rydym am benodi cynorthwyydd addysgu i ddechrau cyn gynted â phosibl.

Mae'r swydd ar gyfer 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: Dydd Llun - Dydd Gwener

Bydd angen i chi gael y cymwysterau priodol ag o leiaf TGAU mewn Saesneg a Mathemateg; bydd angen i chi fod yn ymroddedig i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol, gorau oll yn arwain at NVQ 2.

Byddai'n fanteisiol cael profiad cyfredol o weithio â phlant ag anghenion addysgiadol arbennig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan oruchwyliaeth yr Athro Dosbarth a bydd yn gyfrifol, o ddydd i ddydd, am gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd yr ymgeisydd cywir yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur. Bydd yn ofynnol i chi ddefnyddio eich cymhelliant eich hun i sicrhau fod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at y cwricwlwm a'u bod yn gwneud cynnydd yn eu dysgu. Mae hon yn swydd a fyddai'n gweddu unigolyn uchelgeisiol sy'n wirioneddol ymddiddori mewn cefnogi disgyblion i ddiwallu eu potensial.

Tra bo Powys yn lle gwych i weithio ynddo, y mae'n lle gwirioneddol wych i fyw ynddo hefyd, gyda chymunedau cyfeillgar ac agos ac amgylchedd naturiol prydferth. Mae'n hawdd cadw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yma ac mae gymaint gennym i'w gynnig i'n poblogaeth leol.

Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2024

Cyfweliadau: Wythnos 19 Chwefror 2024

Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl

Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys
Gallwn gynnig y canlynol
  • Byddwn yn rhoi hyfforddiant i chi a datblygu eich sgiliau
  • Cynllun pensiwn dibynadwy
  • Dysgu a Datblygu
  • Cyflog cystadleuol
  • Cynllun Gwobrwyo Cyngor Sir Powys
  • Iechyd a Llesiant
  • Buddion Aberthu Cyflog
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS