MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Bwyd, Dylunio a Thechnoleg (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys
Athro Bwyd, Dylunio a Thechnoleg (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol i ddisgyblion 11-18 oed yng nghalon Powys â thua 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth gweithgar ganddi - https://www.ysgolcalon.cymru Rydym ni'n falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni'n fwy na'u disgwyliadau.

Rydym ni'n chwilio am Athro Bwyd, Dylunio a Thechnoleg ymroddedig a llawn cymhelliant, sydd am wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein myfyrwyr.

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro ysbrydoledig weithio mewn tîm blaengar, cefnogol ac egnïol a byddem yn croesawu ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso.

Os oes sgiliau trefnu ardderchog gennych a'r gallu i weithio ag eraill i godi cyflawniad drwy ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr, yna hoffem ni glywed gennych chi.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar ehangder gwybodaeth bynciol a bod yn athro rhagorol sy'n awyddus i ddatblygu ei ymarfer a dyfod â llwyddiant parhaus i'n myfyrwyr. Rhaid eich bod chi'n gallu cynllunio gwersi sy'n meithrin diddordeb a gweithio ar y cyd ag adran dalentog sy'n gweithio'n galed ac sy'n ymroddedig i ddarparu cyfleoedd rhagorol i'n myfyrwyr.

Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Tra bo canolbarth Powys yn lle grêt i weithio ynddo y mae hefyd yn lle gwirioneddol grêt i fyw ynddo hefyd gyda chymunedau clos ac amgylchedd naturiol prydferth. Mae'n hawdd cydbwyso bywyd a gwaith yma, ac mae gennym gymaint i'w gynnig i'n poblogaeth leol. Mae amrywiaeth eang o gyfleodd chwaraeon, diwylliannol a chelfyddydol gennym i bob oedran. Mae golff, pysgota, cerdded, seiclo, beicio mynydd, theatrau, sinema a Gŵyl y Gelli a'r Sioe Frenhinol i gyd ar stepen y drws ac mae amrywiaeth eang o glybiau a grwpiau'n bodoli i apelio at wahanol oedran a diddordebau.