MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Y Creuddyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11-18 oed 673 o ddysgwyr (89 o ddysgwyr 6ed dosbarth)

Yn eisiau erbyn Medi 2024:

PENNAETH

Graddfa gyflog: L23 - L29 (£82,490 - £95,545)

Mae'r Llywodraethwyr am benodi arweinydd arbennig, dyfeisgar ac ymroddgar i fynd â'r Ysgol ymlaen i'r cam nesaf yn ei datblygiad. Mae'r Ysgol yn edrych am berson ysbrydoledig gyda chefndir amlwg o gyrraedd safonau addysgol uchel, gydag ysgogiad sicr a sgiliau rheoli ac arwain o'r radd flaenaf.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus:

ymrwymo i hybu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng ac ethos Cymreig/Gymraeg yr ysgol;

barhau i feithrin ysgol ofalgar lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi;

ddarparu gweledigaeth glir ar gyfer dysgwyr yn y Gymru fodern;

ymrwymo i'r safonau uchaf ym mhob agwedd o waith yr ysgol.

fod â phrofiad fel uwch arweinydd llwyddiannus mewn ysgol;

fod â'r gallu i feddwl yn strategol, yn greadigol ac yn arloesol;

feddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i gyfathrebu gyda llywodraethwyr, staff, rhieni, disgyblion a'r gymuned fwy eang.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein. Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Dyddiad cau: hanner nos dydd Iau 22/02/2024

Dyddiad llunio rhestr fer: 29/02/2024

Dyddiadau'r Cyfweliadau: 11-12/03/2024

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.