MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Llandrillo-yn-Rhos

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL LLANDRILLO-YN-RHOS
Ffordd Elwy, Llandrillo-yn-Rhos LL28 4LX
Ffôn: (01492) 549648

Pennaeth: Mrs Gaynor Highcock

Rhif disgyblion: 440 (400 amser llawn + 40 amser hanner)

Yn eisiau erbyn Medi 2024

Mae angen Pennaeth ar ein plant sydd:

  • Yn angerddol am yr hyn y mae'n ei wneud
  • Yn deall beth yw anghenion plentyn
  • Yn garedig, yn gymwynasgar ac yn parchu barn
  • Eisiau helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial a mwynhau ei daith ddysgu

Mae ein Staff, Llywodraethwyr a Chymuned yr Ysgol eisiau Pennaeth sydd:

  • Yn meddu ar hanes profedig o arweinyddiaeth, rheolaeth a chyflawniad rhagorol mewn addysg
  • Yn gyfathrebwr eithriadol, yn drefnus ac yn gallu rhoi cyfeiriad clir
  • Gallu ysbrydoli addysgu rhagorol
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu ymhellach gwricwlwm eang, cytbwys a chreadigol
  • Wedi ymrwymo i hyrwyddo a datblygu ymhellach ethos cymunedol ein hysgol

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu ac ymweld â'r ysgol drwy drefniant gyda'r pennaeth

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Cynhelir y broses gyfweld yr wythnos yn dechrau 26ain Chwefror 2024

Cynhelir cyfweliadau ffurfiol ddydd Mawrth 5ed Mawrth 2024

Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English