MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Disgrifiad

Ysgol Plas Coch

Ffordd Stansty

Wrecsam LL11 2BU

Ffon: 01978 311198

mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mr. Osian Jones

GOFALWR / WRAIG

G04 £7,478 - £7,603 y flwyddyn

13.75 awr yr wythnos

39 wythnos y flwyddyn

Dyddiad cychwyn: Mawrth 4ydd neu cyn gynted a phosib ar ol hynny

Gwyliau blynyddol i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol

Mae'r llywodraethwyr yn edrych i apwyntio person addas i ymgymryd â dyletswyddau gofalwr / wraig yr ysgol. Yn ogystal â chyfrifoldeb am agor a chau'r ysgol, weithiau y tu allan i oriau ysgol, bydd disgwyl i'r person fedru gwneud mân atgyweiriadau, gwirio fod yr adeilad a'r adnoddau mewn cyflwr diogel, cynnal profion o systemau e.e. larwm tan, golau argyfwng a sicrhau diogelwch yr ysgol gan gynnwys o bosib ymateb i alwadau larwm y tu allan i oriau ysgol.

Darperir hyfforddiant gan CBSW a chyfle i gysgodi'r gofalwr presenol am gyfnod.

13.75 awr yr wythnos (mae yna elfen o hyblygrwydd i'r oriau - hyn i'w cytuno efo'r ymgeisydd llwyddiannus) yn ystod tymor ysgol (gan gynnwys diwrnodau HMS).

Cysylltwch â'r pennaeth am fwy o wybodaeth neu os am ymweld efo'r ysgol.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Ceisiadau wedi eu cwblhau i gael eu dychwelyd at y pennaeth i'r Ysgol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â'r cymwysterau addas beth bynnag fo'u hil, cenedl, anabledd, rhywioldeb, credoau crefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener, Chwefror 16eg 2024

Dyddiad cyfweliad i'w gadarnhau