MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Safle/Gofalwr

Rheolwr Safle/Gofalwr

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria

Stryt Poyser

Wrecsam

LL13 7RR

Rhif Ffôn: 01978 360060

Rheolwr Safle/Gofalwr

18 awr yr wythnos

G04 £9,789- £9,953

Parhaol- 39 wythnos y flwyddyn

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I gychwyn 20 Gorffennaf 2024 (ac ychydig o waith dros wyliau haf yr ysgol - i'w drefnu)

Rydym ni'n chwilio am Reolwr Safle brwdfrydig, dibynadwy, cyfeillgar sydd â chymhelliant ac sy'n canolbwyntio ar y gymuned, i ymuno â'n hysgol yn llawn ym mis Medi 2024, yn dilyn cyfnod trosglwyddo ym mis Gorffennaf ac yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Byddwch yn unigolyn llawn cymhelliant sydd â synnwyr digrifwch da, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal safle'r ysgol, i sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel i gymuned gyfan yr ysgol.

Oriau gwaith safonol yn ystod y tymor yw 6.30am - 8.30am a 5.00pm - 6.30pm. Mae'n rhaid i wyliau blynyddol gael ei gymryd yn ystod gwyliau'r ysgol. Gellir cytuno ar oriau gwaith yn ystod gwyliau'r ysgol gyda'r Pennaeth, a bydd oriau wythnosol ychwanegol yn cael eu trafod yn y cyfweliad.

Byddwch yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel, gallu gwneud mân waith atgyweirio, cynnal gwiriadau diogelwch fel bo'r angen a sicrhau bod cofnodion digonol yn cael eu cynnal. Fel y prif ddeiliad allwedd, byddwch hefyd yn gyfrifol am agor a chloi'r ysgol bob dydd.

Byddwch yn trefnu bod gwastraff yn cael ei waredu'n effeithlon o'r adeilad ac oddi ar dir yr ysgol, gan gynnwys ailgylchu, a sicrhau bod y tu allan yn glir o chwyn, sbwriel a llanast.

Disgwylir i chi fynd i'r ysgol fel y bo'n briodol y tu allan i oriau gwaith arferol os digwydd i'r larwm ganu neu os oes argyfwng arall. Mae'r swydd hon yn addas i rywun sy'n byw'n lleol. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL, MRS ECCLES.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener, 17 Mai 2024

CYFWELIADAU: Dydd Iau 6 Mehefin, 4pm ymlaen

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.