MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Archoliadau

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL UWCHRADD RHOSNESNI

Lôn Rhosnesni

Wrecsam

LL13 9ET

Pennaeth: Mr A Brant BSc Hons, NPQH

Goruchwyliwr Arholiadau

Oriau gwaith achlysurol dros flwyddyn academaidd lawn

Yn ystod y tymor yn unig, yn ystod cyfnod arholiadau

£11.59/yr awr

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i gyflawniadau pobl ifanc yn eich cymuned?

A oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd gwaith rheolaidd dros gyfnodau penodol yn eich ysgol uwchradd leol?

Ydych chi eisiau ymuno â thîm profiadol, ymroddedig a chyfeillgar?

Ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd a buddiol?

Mae Ysgol Uwchradd Rhosnesni yn dymuno penodi Goruchwylwyr Arholiadau i ymuno â'n tîm cyfeillgar i gynorthwyo â'r gwaith o gynnal yr holl arholiadau cyhoeddus a mewnol yn yr ysgol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae hwn yn gontract achlysurol; bydd oriau gwaith yn cael eu trafod ar gyfer pob cyfnod arholiadau.

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer unigolion sy'n drefnus, sy'n gallu rhoi sylw i fanylion ac sy'n ddibynadwy. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, agwedd gyfeillgar, ddigynnwrf a chefnogol a'r gallu i weithio o dan amodau arholiad llym.

Bydd dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio disgyblion sy'n sefyll arholiadau cyhoeddus a mewnol, goruchwylio ymgeiswyr rhwng arholiadau, helpu i baratoi ystafelloedd arholiad, dosbarthu a chasglu papurau arholiad i gyd yn unol â rheoliadau JCQ.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn frwdfrydig, dibynadwy ac yn teimlo'n frwd dros helpu pobl ifanc. Darperir hyfforddiant llawn a chynhwysfawr, nid oes angen profiad blaenorol.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm profiadol ac os hoffech fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Mrs Suzanne Blackshaw ar 01978 340840. Ffurflen gais a swydd ddisgrifiad ynghlwm.Anfonwch ffurflenni cais dros e-bost at mailbox@rhosnesni-high.wrexham.sch.uk

Dylech anfon ceisiadau ysgrifenedig yn uniongyrchol i Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Lôn Rhosnesni, Wrecsam, LL13 9ET

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 26 Chwefror 2024