MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Saesneg - Ysgol Eifionydd

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG

(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 369 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2024

ATHRO/ATHRAWES SAESNEG (0.8)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu yr holl ystod gallu ac oedran a byddai gallu cyfrannu at gwricwlwm Iechyd a Llês yr ysgol yn fanteisiol.

Oriau gwaith: 26 awr yr wythnos

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£24,593.60 - £37,872) yn ôl profiad a chymhwyster

Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD LLUN, 19 CHWEFROR, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(The above is an advertisement for the post of a English Teacher at Ysgol Eifionydd, Porthmadog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

CYNGOR GWYNEDD

MANYLION PERSON

T eitl y Swydd : Athro/Athrawes Saesneg Ysgol Uwchradd

Adran: Addysg

Gwasanaeth: Uwchradd

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
  • Brwdfrydig ac ymroddgar.
  • Ymrwymedig i welliant parhaus.
  • Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
  • Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
  • Gradd Anrhydedd.
  • Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.

DYMUNOL
  • Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
  • Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
  • Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
  • Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.

DYMUNOL
  • Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
  • Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd
  • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella'r ysgol.
  • Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
  • Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
  • Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
  • Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
  • Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.

ANGHENION IEITHYDDOL
  • Gallu cynnal a dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
  • Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoir o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Sgiliau Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
  • Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
  • Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir

rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD DDISGRIFAD ATHRO
Dyma gyfrifoldebau penodol y pwnc:

1. Yn cofrestru disgyblion ar ddechrau bob gwers.
2. Cyfrannu tuag at ddysgu'r pwnc o dan arweiniad y Pennaeth Adran.
3. Gosod gwaith a chynllunio gwersi yn unol â'r Cynlluniau Gwaith.
4. Yn unol ag arweiniad y Pennaeth Adran, cyfrannu tuag at adnewyddu Cynlluniau Gwaith.
5. Dysgu pob disgybl yn unol â'i anghenion dysgu.
6. Asesu, cofnodi ac adrodd ar ddisgyblion i gyd fynd â pholisïau ysgol a chyfadran.
7. Yn cofnodi lefelau a graddau asesiadau gan ddefnyddio system ysgol gyfan CA3 a system adrannol CA4.
8. Sicrhau fod y gwersi yn rhoi sylw digonol i'r Fframwaith Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd digidol yn ogystal â PYD, ADY a'r abl a thalentog.
9. Yn gweithredu polisi iaith yr ysgol o fewn y dosbarth.
10. Yn cadw cofnod o'r gwaith dosbarth a gwaith cartref.
11. Dilyn rhaglen tiwtora a mentora'r ysgol yn ôl yr angen.
12. Cyfrannu at broses hunan arfarnu'r adran. Yn benodol trwy arfarnu canlyniadau CA4 y disgyblion addysgir e.e. Data safle diogel TGAU CBAC, a chanlyniadau diwedd CA3 y disgyblion addysgir.
13. Cymryd rhan mewn Cyfarfodydd Adran.
14. Trafod a chydymffurfio ar fethodoleg dysgu.
15. Cynnal trefn a disgyblaeth dda yn yr Adran ac o fewn yr ystafell ddosbarth a'r coridorau.
16. Cymryd rhan mewn trefniadaeth ac asesiad arholiad mewnol ac allanol.
17. Parhau i hyfforddi a chynnal gwybodaeth ddeallus o'r pwnc a'i methodolegau dysgu.
18. Cyfrannu tuag at reolaeth a gweinyddiaeth rhai agweddau ar yr Adran.
19. Bod yn gyfrifol am gyflwyniad symbylus a threfnus yr ystafelloedd dosbarth.

Ni ddylid dehongli'r swydd ddisgrifiad hon fel disgrifiad cyflawn o'r swydd. Adolygir a diwygir y swydd yn flynyddol ac fe ellir ei haddasu neu ei diwygio ar unrhyw adeg yng ngoleuni unrhyw ddeddfau cyflogaeth neu anghenion cwricwlaidd ac ar ôl ymgynghori gyda'r sawl fydd yn llenwi'r swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi