MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaet h

ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted a phosib.

Cymhorthydd Arbenigol Cynnal Ymddygiad

Traws Gwynedd

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/ neu faterion Cynhwysiad ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £12.59 i £13.46) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r awdurdod yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â Caren Williams, Uwch Athrawes Cynnal Ymddygiad ar rif ffon 01286 679007.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

Ffurflenni cais gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

DYDDIAD CAU; HANNER DYDD, DYDD IAU , 15 CHWEFROR 2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Trefnu amser yn effeithiol
• Sgiliau cyfathrebu clir
• Gallu cydweithio fel aelod o dîm
• Gallu i weithio'n hyblyg
• Brwdfrydedd
• Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
• Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd -

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
Sgiliau rhif/llythrennedd da
• NVQ Lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 2 mewn BSL
Nam Golwg: Lefel 2 mewn Braille
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Ymrwymiad i ddilyn hyfforddiant Lefel 2/3 yn y maes penodol (e.e. Elklan)
Anghenion ADY Penodol: Ymrwymiad i ddilyn Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Ymrwymiad i ddilyn Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu gyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton) -

DYMUNOL
-Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a/neu chynhwysiad
Nam Clyw: Lefel 3 mewn BSL
Nam Golwg: Dealltwriaeth gadarn mewn o leiaf 5 còd Braille
Synhwyraidd / Corfforol / Meddygol - Tystysgrif neu Ddiploma mewn Adsefydlu a Symudedd Nam Synhwyraidd
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch
Anghenion ADY Penodol: Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu fod wedi mynychu cyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)
• Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol
-

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol. -

DYMUNOL
Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol -

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
• Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
• Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus -

DYMUNOL
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
• Dealltwriaeth gyffredinol o gyfnod cenedlaethol/sylfaenol, cwricwlwm, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
• Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn -

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

-

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed fel ymateb i anghenion disgyblion yn arbennig y rhai gydag anghenion
emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol i ddileu rhwystrau ar gyfer dysgu yn ysgolion a Chanolfannau Gwynedd a
Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynhwysiad.

Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.

Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.

I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth Athro/awes Arbenigol Cynnal Ymddygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau a
amlinellir o fewn y swydd ddisgrifiad yn cael eu gweithredu o dan reolaeth a goruchwyliaeth athro/awes.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

 Ffôn symudol.
 Gliniadur
 Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
 Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion

Prif Ddyletswyddau.

Cefnogaeth i Ddisgyblion

 Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan arweiniad yr
Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn
unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac
ymddygiadol y disgyblion.

 Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau'r Tîm Cynnal Ymddygiad am gyfnod penodol o dan
arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd
Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol
ac ymddygiadol y disgyblion.

 Derbyn a goruchwylio disgyblion nad ydynt am gyfnodau yn dilyn rhaglen ddysgu arferol.

 Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol am gyfnodau byr pan fo'r Athro/awes
Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal ADYaCh yn rheolaidd.

 Cynorthwyo staff dysgu o fewn y prif lif a'r Canolfannau gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol /
Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion er mwyn hybu cynnydd yn eu iechyd emosiynol ac ymddygiadol.

 Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cynnal Ymddygiad ac asiantaethau eraill perthnasol gan
sicrhau lefelau o ofal bugeiliol i unigolion o dan gyfarwyddyd staff dysgu.

 Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r
disgyblion sydd yn cael sylw gan y tîm Cynnal Ymddygiad.

 Cefnogi'r ddarpariaeth therapiwtig ar gyfer disgyblion gydag anghenion ychwanegol ac yn arbennig
anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.

 Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth
disgyblion yn ei ddefnydd.

 Dan oruchwyliaeth yr Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, cyflwyno rhagleni hyrwyddo iechyd meddwl mewn grŵp
bach neu un i un.

 Sicrhau gwybodaeth a chyngor i ddisgyblion i'w galluogi i wneud penderfyniadau a dewisiadau ar gyfer eu
haddysg, eu hymddygiad a'u presenoldeb.

 Cefnogi a herio ymagwedd disgyblion gan hyrwyddo a chyfoethogi eu hunan-barch.

 Sicrhau adborth i ddisgyblion yng nghyd-destun eu cynnydd, eu llwyddiannau, ymddygiad a phresenoldeb.

Cefnogaeth i Athrawon:

 Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.

 Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.

 Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun
Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.

 Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.

 Ymateb i anghenion personol disgyblion a chynnig cyngor ynglŷn â datblygiad emosiynol, ymddygiadol, eu
hiechyd, glendid a gofal.

 Cefnogi'r staff dysgu i ddatblygu trefniadau mentora disgyblion a sicrhau cymorth i unigolion bregus.

 Sicrhau trosglwyddiad buan ac effeithiol i ddisgyblion drwy gamau integreiddio penodol gan roi sylw i unigolion
sy'n dychwelyd i ysgol wedi cyfnod absenoldeb.

 Cyfathrebu gydag ysgolion dalgylch ac asiantaethau eraill i gasglu gwybodaeth am unigolion am eu cynnydd.

 Sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer gweinyddu e.e. galwadau ffôn, delio gyda gohebiaeth, diweddaru data,
gwybodaeth presenoldeb, gwaharddiadau.

 Bod yn ymwybodol, a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion sydd ar gael i
gynnig cymorth i unigolion i ychwanegu at eu profiadau dysgu.

 Sicrhau a defnyddio adnoddau arbenigol, cynlluniau ac offer i gefnogi disgyblion.

 Cefnogi mynediad disgyblion i adnoddau a strategaethau perthnasol i gyfoethogi eu haddysg.

 Cynorthwyo staff dysgu i gynllunio, dadansoddi ac addasu gweithgareddau dysgu fel bo'n briodol.

 Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd
Addysg, Athrawon Arbenigol ac Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl o fewn y Tîm Cynnal Ymddygiad.

 Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i
bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.

 Bod yn ymwybodol ac yn effro i wahaniaethau gan sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd cyfartal ar gyfer mynediad i addysg.

Cyffredinol:

 Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant, iechyd a diogelwch cyfrinachedd a diogelu
data, gan gyfeirio unrhyw bryder i'r person perthnasol.

 Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynhwysiad.

 Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

 Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

 Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

 Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf
Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor

 Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb

 Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

 Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
swydd

 Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i
weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

 Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi