MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Treferthyr, Criccieth,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Clwb Brecwast - Ysgol Treferthyr

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Cymhorthydd Clwb Brecwast Ysgol Treferthyr, Cricieth

I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 5 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol

GS1 pwynt 2 £11.59 yr awr (£9.70 wedi ei gyfartalu)

Cyflog wythnosol - £48.50

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Dyddiad Cau: 14/02/2024

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Margaret Rosemary Hughes ar 01286 679 581

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn 01286 67907

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol neu ymrwymiad i basio'r cwrs ymhen 3 mis o'r apwyntiad.
Dymunol
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio a gweini bwyd

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf

Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn cegin
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ol brecwast. Golchi'r offer a glanhau'r gegin ar ffreutur.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Gweithio da gyfarwyddid y Cogydd a Gofal neu'r Dirpwy.

• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast agweini'r bwyd.

• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lan, gan gynnwys y ffreutur.

• Glanhau llawr y ffreutur gan lanhau pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.

• Gwneud dyletswyddau cyffrediniol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestr, gosod a chlirio dodrefn ffreutur.

• Bydd y Cymorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod cyfnod brecwast yn absenoldeb y Cogydd.

• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lan bridol.

• Cydymffurfio a pholisïau Iechyd a Diogelwch a Diolgwlech Bwyd Cyngor Gwynedd.

• Yn cyflawni unrhyw ddelytswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi