MANYLION
  • Lleoliad: Bryncethin Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Bryncethin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Bryncethin
Disgrifiad swydd
Hyd at 5 awr yr wythnos – Tymor yr Ysgol

Mae Ysgol Gynradd Bryncethin yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio  i weithio yn ystod amser cinio bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig. 

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant. 

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 16 Chwefror 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Yr wythnos sy'n dechrau 19 Chwefror 2024

Dyddiad y Cyfweliad: Yr wythnos sy'n dechrau 26 Chwefror 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person