MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Plant Dechrau'n Deg - Dechrau'n Deg - Cyfnod Penodol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Plant Dechrau'n Deg - Dechrau'n Deg - Cyfnod Penodol
Disgrifiad swydd
Cyfnod Penodol hyd at fis Mawrth 2024

Swyddi ar gael

1 x safle 32 awr

1 x swydd 20 awr

Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg, sy'n ceisio targedu cymorth i blant cyn oed ysgol a'u teuluoedd mewn ardaloedd penodol, ac i gyflawni deilliannau penodol i blant. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i ofal plant o safon i blant a nodwyd fel rhan o ddull amlasiantaeth.

Gan weithio yn y lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg byddwch yn gweithio gyda phlant 2-3 oed, gan eu helpu i ddatblygu, dysgu a chwarae, gan ddarparu safon uchel o ofal corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol i blant Dechrau'n Deg.

O fewn y tîm gofal plant byddwch yn cysylltu'n rheolaidd ag aelodau amrywiol o'r tîm amlasiantaeth yn Dechrau'n Deg, gan gynnwys yr Athro Ymgynghorol Dechrau'n Deg, Seicoleg Addysgol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac Ymwelwyr Iechyd.

 Yn y rôl hon bydd yn ofynnol i chi feddu ar brofiad o weithio mewn lleoliadau gofal plant a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad plant

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ar draws y rhaglen Dechrau'n Deg.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.

Dyddiad Cau: 21 Chwefror 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person