MANYLION
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Testun: technegydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Technegydd Gwyddoniaeth

Ysgol Aberconwy
Technegydd Gwyddoniaeth
Ystod Cyflog: G04 : £18,636 - £19,599
Mae hon yn swydd barhaol o 32.5 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Chwefror 19fed, 2024
Dyddiad Cychwyn: Ebrill 2024.

Rydym yn awyddus i apwyntio Technegydd brwdfrydig a chyda cymhelliad cryf i gefnogi’r adran Wyddoniaeth. Byddant yn gweithio dan arweiniad y Pennaeth Adran i ddarparu cefnogaeth gyffredinol mewn gwyddoniaeth, gan gynnwys paratoi a chynnal adnoddau a chefnogaeth i staff a disgyblion ac i gynnal cyfarpar gwyddoniaeth a chyflenwadau cemegion. Gan gydweithio â’r Pennaeth Adran, byddant yn sicrhau cydymffurfiad â gofynion Iechyd a Diogelwch o ran defnyddio a storio cyfarpar gwyddoniaeth a chemegion.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1000 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/