MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth/Pennaeth Dros Dro (Ysgol Gynradd Arddlîn)

Cyngor Sir Powys
Pennaeth/Pennaeth Dros Dro (Ysgol Gynradd Arddlîn)
Swydd-ddisgrifiad
Yn eisiau erbyn Medi 1af, 2024

PENNAETH PARHAOL neu DROS DRO

Dyletswydd addysgu: 0.2

Grŵp 1, ISR 8 - 14

Nifer o ddisgyblion: 115

Dymuna'r Corff Llywodraethol apwyntio arweinydd ysgol ysbrydoledig, cynhwysol, a fydd yn tywys yr ysgol hynod o lwyddiannus hon a dilyn ein Pennaeth cyfredol, wedi gwasanaeth hir.

Ein Hysgol

Ein nod ydy darparu amgylchfyd dysgu diogel, gofalgar, ysgogol lle y gall pawb ffynnu. Rydym eisiau i bob plentyn ddatblygu fel dysgwr gydol-oes annibynnol, gwydn sy'n gwneud cyfraniad gweithredol mewn byd amryfal, technolegol, newidiol.

Lleolir yr ysgol ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig a daw disgyblion o bentrefi lleol ac ardal wledig ehangach. Mae hi'n ysgol bentref boblogaidd, llwyddiannus gydag ethos cymunedol, gofalgar. Mae'r lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i'r Trallwng, Croesoswallt ac Amwythig, gyda threfi a dinasoedd mwy o faint o fewn pellter teithio rhesymol.

Mae Ysgol Arddlîn yn rhan o glwstwr Y Trallwng ac mae ganddi cysylltiadau cryf ag ysgolion cynradd eraill, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Y Trallwng. Mae'r ysgol yn cydweithio gydag ysgolion eraill y clwstwr ar ystod o brosiectau, megis Cwricwlwm i Gymru, a gyda'r Ysgol Uwchradd, er mwyn cryfhau cysylltiadau pontio. Mae gan y Pennaeth cyfredol a'r staff hanes cryf o ran cefnogi ysgolion clwstwr Y Trallwng, ac eraill ymhellach i ffwrdd, o ran arweinyddiaeth, addysgu a datblygiad proffesiynol.

O'r 115 o ddisgyblion yn yr ysgol, mae gan nifer fach Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac mae nifer fach yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Saesneg ydy iaith gyntaf bron pob disgybl. Er hynny, mae ein disgyblion yn frwdfrydig wrth ddysgu Cymraeg ac, yn ddiweddar, mae'r ysgol wedi ennill Gwobr Arian Siarter Iaith Cymru.

Cynigia'r ysgol ystod eang o glybiau ar ôl ysgol, yn cynnwys pêl droed, traws gwlad, Celf a Chrefft yr Urdd, Minecraft, drama, rygbi a chwaraeon yr haf.

Datblygiad Proffesiynol

Mae hanes profedig gan Ysgol Arddlîn, o safbwynt hyfforddi a datblygu staff. Mae hyn yn cynnwys galluogi cynorthwywyr i gymhwyso fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu i gymhwyso fel athro. Mae pob athro wedi cwblhau Rhaglen Athrawon Eithriadol Olevi ac mae sawl un wedi cwblhau Rhaglen Arweinwyr Canol..

Ein adeilad a safle

Rydym yn rhannu adeilad gyda neuadd y pentref; rydym yn llogi'r neuadd fawr, ystafell bwyllgor a chegin yn ystod dyddiau ysgol.

Lleolir neuadd y pentref a'r ysgol o fewn cae chwarae mawr, yn wynebu i'r de. Mae gennym ardal goedwig, coed ffrwythau a chafnau plannu. Mae gennym ddosbarth allanol, aml ddefnydd, wrth ochr ystod o offer chwarae parhaol.

Tu allan i oriau ysgol, mae'r safle allanol cyfan ar gael ar gyfer ei ddefnyddio gan bentrefwyr ac eraill, a gwerthfawrogir hyn gan y gymuned leol.

Mae'r ysgol yn rhan o gynllun ynni effeithlon Powys: Gosodwyd paneli haul gyda storfa batri y llynedd, ynghyd ag insiwleiddio arbennig yn y to.

Y person rydym yn ei chwilio:

Byddwch yn Bennaeth profiadol sy'n chwilio am her newydd, neu'n Ddirprwy/ Arweinydd Uwch profiadol gyda phrofiad arweinyddiaeth ysgol-gyfan. Mae hi'n angenrheidiol i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster CPCP.

Mae'r Llywodraethwyr yn edrych i apwyntio Pennaeth a fydd yn:
  • Galluogi ein disgyblion a staff i fod y gorau y gallent fod
  • Cynnal ein hymagwedd cydweithredol a gofalgar tuag at ddisgyblion a staff.
  • Cynnal safonau addysg uchel ar gyfer ein disgyblion, gan sicrhau bod sgiliau dysgu gydol-oes perthnasol yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
  • Sicrhau bod lles disgyblion a staff yn aros yn flaenoriaeth ac yn ffocws i'r holl gynllunio strategol.
  • Cynnal yr ymdeimlad cryf o gymuned ac ymrwymiad teuluol.
  • Datblygu safonau dysgu ac addysgu rhagorol ymhellach.
  • Weladwy, yn hygyrch a gyda'r gwydnwch i gwrdd â heriau dyddiol y rôl canolog hwn.
  • Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg sy'n datblygu sgiliau dwyieithog disgyblion, fel sy'n addas.
  • Meddu ar weledigaeth, egni a brwdfrydedd er mwyn arwain ein hysgol gynhwysol, ac anelu at ragoriaeth.
Bydd yr ysgol yn cynnig i chi:
  • Y cyfle i ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol
  • Tîm o staff rhagorol, ymroddgar, gyda disgwyliadau uchel o'u hunain ac o'r disgyblion yn eu gofal.
  • Disgyblion sy'n awyddus i ddysgu ac anelu'n uchel.
  • Corff Llywodraethol sy'n darparu cefnogaeth a her allweddol.
  • Mynediad at raglen yr Awdurdod ar gyfer Penaethiaid newydd.
Datganiad Diogelu:

Ymrwyma Ysgol Arddlîn i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, a disgwylir bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Croesawir ceisiadau oddi wrth grwpiau sy'n cael eu tan-gynrychioli, yn cynnwys ethnigrwydd, rhyw, traws-rhyw, oedran, anabledd, tueddiad rhywiol neu grefydd.

Croesawir ymweliadau ysgol gan ymgeiswyr posibl. A wnewch chi gysylltu â Mr Keith Bowyer, Pennaeth, ar 01938 590445 er mwyn trefnu amser cyfleus i'r ddwy ochr.

Dyddiad cau: Dydd Sul, Mawrth 17eg, 2024

Rhestr fer: Dydd Gwener, Mawrth 22ain, 2024

Cyfweliadau: Dydd Iau, Ebrill 18fed, 2024