MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes mewn Darpariaeth ag Adnoddau Lleferydd ac Iaith.

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Parc Acton

Lôn y Bwth, Wrecsam, LL12 8BT

Rhif ffôn: 01978 318950

E-bost: mailbox@actonpark-pri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mr J. Roberts

Swydd barhaol lawn amser ar gyfer Athro / Athrawes mewn Darpariaeth ag Adnoddau Lleferydd ac Iaith.

(Y Cyfnod Sylfaen)

Rydym yn chwilio am athro / athrawes brofiadol a/neu gymwys i addysgu a chydlynu darpariaeth addysgol ar gyfer disgyblion gydag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu dwys. Mae'r swydd yn cynnwys cydlynu tîm ymroddedig o staff cymorth ac angen gweithio mewn partneriaeth gyda therapyddion iaith a lleferydd, rhieni, staff prif ffrwd ac ystod o weithwyr proffesiynol.

Bydd yr ymgeisydd a benodir yn gweithio yn Ysgol Gynradd Parc Acton ond efallai bydd hefyd angen rhannu arbenigedd / hyfforddiant ar draws yr Awdurdod Lleol, os oes ganddynt gymwysterau a/neu brofiad priodol.

Sylwer bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau diploma ôl-radd mewn 'amhariad iaith a chyfathrebu mewn plant' drwy Brifysgol Sheffield.

Mae hon yn swydd barhaol lawn amser.

Graddfa gyflog: MPS/UPS a Lwfans AAA (Efallai y cynigir CAD yn dibynnu ar sgiliau, profiad a gallu'r ymgeisydd i gyflawni rôl ehangach).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Mr J. Roberts, Pennaeth, Ysgol Gynradd Parc Acton

Dylid dychwelyd y ffurflenni cais i Mr J. Roberts erbyn 12pm ddydd Llun 11 Mawrth 2024

Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal ddydd Mercher 20 Mawrth 2024

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.