MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Ffridd Y Llyn, Y Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cegin Cyffredinol Ysgol Ffridd y Llyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

CYMHORTHYDD CEGIN CYFFREDINOL, YSGOL FFRIDD Y LLYN, BALA

GS1 pwynt 2 £11.59 yr awr (£9.70 wedi ei gyfartalu)

Cyflog wythnosol - £90.70

I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 10 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwyneth Elizabeth Hughes ar 01286 679185

Dyddiad Cau: 12/03/2024

Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn / Telephone number 01286 679076

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol neu ymrwymiad i basio'r cwrs ymhen 3 mis o'r apwyntiad.
Dymunol
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio a gweini bwyd

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf

Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio mewn cegin
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• I gynorthwyo'r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd syml, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra'r gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal neu'r Dirpwy.

• Yn cynorthwyo mewn paratoi a gweini'r bwyd gan gynnwys coginio syml.

• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.

• Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau'r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.

• Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio dodrefn yn y ffreutur.

• Lle na bo Cogydd Cynorthwyol bydd y Cymhorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod absenoldeb y Cogydd ond am y tâl priodol.

• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.

• Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.

• Yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i'r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi