MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Manylion
Hysbyseb Swydd
Ionawr 2024
Annwyl Ymgeisydd
Swydd: Athro/Athrawes Mathemateg dros dro Cyfnod Mamolaeth
Ysgol: BRO IDRIS, DOLGELLAU
Diolch i chi am eich ymholiad am y swydd uchod. Amgaeaf ffurflen gais a manylion pellach.
Yr amser cau ar gyfer ceisiadau am y swydd yw hanner dydd ar y 20fed Chwefror 2024.
Fe all aelod o'r Panel Penodi fod angen gwybodaeth am ymgeiswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly gwahoddir i chwi i gyflwyno eich cais yn y ddwy iaith. A fyddwch cystal â sicrhau bod eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais.
Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwricwlwm vitae yn ogystal fel rhan o'ch cais fe ganiateir hyn, ond gofynnir i chwi hefyd gwblhau'r ffurflen gais safonol yn llawn.
Os ydych yn dymuno cael manylion pellach am y swydd cysylltwch â Mrs Jano Owen (01341) 424949. Eich cyswllt yn yr Ysgol yw Miss Eirian R Hoyle ar (01341) 424949 neu ebost sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cadarnhad fod eich cais wedi ei dderbyn, yna cysylltwch gyda Eirian R Hoyle yn yr Ysgol ar (01341) 424949/ sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru .
PWYSIG - Nodwch, os gwelwch yn dda, enw a chyfeiriad dau ganolwr. I ymgeisydd sydd eisoes mewn gwaith mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn eich cyflogi ar hyn o bryd.
Oherwydd bod tâl post yn ddibynnol ar faint a phwysau amlenni, dylech sicrhau bod y tâl post cywir ar yr amlen wrth ddychwelyd eich ffurflen gais. Mae yna bosibilrwydd na fydd eich cais yn cyrraedd cyn y dyddiad cau os na fyddwch yn cydymffurfio gyda'r uchod
Yn gywir
Mrs Jano Owen
Pennaeth Strategol
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 581 o ddisgyblion)
AIL HYSBYSEB
Dyddiad dechrau: 3 Mehefin 2024
Athro/Athrawes Mathemateg Dros Dro Llawn Amser
Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i'w gwaith.
Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Athro/Athrawes i Ysgol Bro Idris, a fydd yn athro/athrawes Mathemateg, i ganolbwyntio ar y Mathemateg yn Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
PWYSIG:- Pecyn cais i'w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru . dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD MAWRTH 20fed o Chwefror 2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Mae ffurflen gais am y swydd yma ar gael i'w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd ( www.gwynedd.llyw.cymru )
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
TEITL Y SWYDD: Athro - awes Mathemateg Dros dro Cyfnod Mamolaeth
YSGOL: Bro Idris, Dolgellau
ADRAN: Addysg
Pwrpas craidd athro yma yng Ngwynedd, yw ymdrechu i sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion o dan ei gofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDR h ac athrawon eraill mae'r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
Rhestrir isod y cymwysterau, profiadau, sgiliau/gwybodaeth, nodweddion personol a'r gallu ieithyddol sy'n sail i allu'r athro dosbarth i gyflawni ei rôl
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
DYMUNOL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
DYMUNOL
SGILIAU A GWYBODAETH BROFFESIYNOL
HANFODOL
DYMUNOL
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg - darllen, siarad ac ysgrifennu.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd.
Defnyddir y rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Ysgol Bro Idris
SWYDD DDISGRIFIAD ATHRO/ATHRAWES Cam (Ffês) 2 a 3
DROS DRO CYFNOD MAMOLAETH
Teitl y swydd:
Athro / Athrawes Cam (Ffês) 2 a 3 - disgyblion Blynyddoedd 5 - 11.
Pwnc Dysgu: Mathemateg
Graddfa Cyflog:
Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau
Dyletswyddau Gwaith:
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa gyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol Pennaeth Strategol yr ysgol o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Mae'r prif ddyletswyddau gwaith sydd ynghlwm wrth y swydd hon fel a ganlyn:
[a] Dysgu yn unol ag anghenion addysgol y disgyblion a roddir dan ei
(g)ofal gan gynnwys gosod a marcio gwaith sydd i'w wneud gan y disgybl ar y safle neu ar safle arall.
[b] Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gweithgareddau a dyletswyddau perthnasol er mwyn integreiddio gwaith y dosbarth a gwaith drwy'r ysgol.
Cyfrifoldebau Penodol:
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog y disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus. Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd, cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr. Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysg Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw. Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w (g)ofal hyd eithaf ei (g)allu. Gosod a marcio gwaith y disgyblion yn unol â`r canllawiau ysgol.
Cysylltiadau:
Mae deilydd y swydd yn ymatebol i Bennaeth Strategol neu i Bennaeth Cynorthwyol Cam (Ffês) am ddyletswyddau a chyfrifoldebau dysgu ac am dasgau dysgu.
Bydd deilydd y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu a'r addysgu yn yr ysgol yn rheolaidd.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
YN YCHWANEGOL gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau a ganlyn:
[1] Ymgymryd â'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol â Chynllun Datblygu'r Ysgol.
I'w bennu
[2] Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol â Chynllun Gwella'r Ysgol:
I'w bennu.
Gellir newid y swydd-ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb o bryd i'w gilydd.
Yr wyf wedi darllen yr uchod ac yn ymwybodol o'r cynnwys.
Llofnod..............................................Dyddiad.................
Pennaeth............................................Dyddiad.................
Safonau Athrawon wrth eu Gwaith
Nodweddion a gwerthoedd proffesiynol
Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
Sgiliau Proffesiynol
Cynllunio a gosod targedau
Monitro ac asesu
Addysgu a rheoli'r dysgu
Hyrwyddo dealltwriaeth dysgwyr o natur ddwyieithog Cymru a datblygu eu sgiliau dwyieithog fel sy'n briodol.
Hysbyseb Swydd
Ionawr 2024
Annwyl Ymgeisydd
Swydd: Athro/Athrawes Mathemateg dros dro Cyfnod Mamolaeth
Ysgol: BRO IDRIS, DOLGELLAU
Diolch i chi am eich ymholiad am y swydd uchod. Amgaeaf ffurflen gais a manylion pellach.
Yr amser cau ar gyfer ceisiadau am y swydd yw hanner dydd ar y 20fed Chwefror 2024.
Fe all aelod o'r Panel Penodi fod angen gwybodaeth am ymgeiswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly gwahoddir i chwi i gyflwyno eich cais yn y ddwy iaith. A fyddwch cystal â sicrhau bod eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais.
Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwricwlwm vitae yn ogystal fel rhan o'ch cais fe ganiateir hyn, ond gofynnir i chwi hefyd gwblhau'r ffurflen gais safonol yn llawn.
Os ydych yn dymuno cael manylion pellach am y swydd cysylltwch â Mrs Jano Owen (01341) 424949. Eich cyswllt yn yr Ysgol yw Miss Eirian R Hoyle ar (01341) 424949 neu ebost sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cadarnhad fod eich cais wedi ei dderbyn, yna cysylltwch gyda Eirian R Hoyle yn yr Ysgol ar (01341) 424949/ sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru .
PWYSIG - Nodwch, os gwelwch yn dda, enw a chyfeiriad dau ganolwr. I ymgeisydd sydd eisoes mewn gwaith mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn eich cyflogi ar hyn o bryd.
Oherwydd bod tâl post yn ddibynnol ar faint a phwysau amlenni, dylech sicrhau bod y tâl post cywir ar yr amlen wrth ddychwelyd eich ffurflen gais. Mae yna bosibilrwydd na fydd eich cais yn cyrraedd cyn y dyddiad cau os na fyddwch yn cydymffurfio gyda'r uchod
Yn gywir
Mrs Jano Owen
Pennaeth Strategol
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 581 o ddisgyblion)
AIL HYSBYSEB
Dyddiad dechrau: 3 Mehefin 2024
Athro/Athrawes Mathemateg Dros Dro Llawn Amser
Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i'w gwaith.
Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Athro/Athrawes i Ysgol Bro Idris, a fydd yn athro/athrawes Mathemateg, i ganolbwyntio ar y Mathemateg yn Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
- yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 - 16 oed.
- yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.
Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
- ymgeiswyr sy'n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
- Darperir hyfforddiant.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
PWYSIG:- Pecyn cais i'w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru . dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD MAWRTH 20fed o Chwefror 2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Mae ffurflen gais am y swydd yma ar gael i'w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd ( www.gwynedd.llyw.cymru )
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
TEITL Y SWYDD: Athro - awes Mathemateg Dros dro Cyfnod Mamolaeth
YSGOL: Bro Idris, Dolgellau
ADRAN: Addysg
Pwrpas craidd athro yma yng Ngwynedd, yw ymdrechu i sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion o dan ei gofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDR h ac athrawon eraill mae'r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
Rhestrir isod y cymwysterau, profiadau, sgiliau/gwybodaeth, nodweddion personol a'r gallu ieithyddol sy'n sail i allu'r athro dosbarth i gyflawni ei rôl
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Statws athro/athrawes gymwysedig
- Cymhwyster lefel gradd ar gyfer oed cynradd neu uwchradd
DYMUNOL
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
- ddysgu yn y sector cynradd neu/ac uwchradd
- o sgiliau reolaeth dosbarth da
- gynnal gwersi effeithiol a diddorol
- ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
- sicrhau ymddygiad priodol
- sefydlu ac anelu at ddisgwyliadau uchel parhaol
- gynllunio'n llwyddiannus
- gydweithredu fel aelod o dîm
DYMUNOL
- profiad o ddysgu mewn mwy nag un ysgol gynradd a/neu uwchradd
- tystiolaeth o safonau addysgu a dysgu cyson dda
SGILIAU A GWYBODAETH BROFFESIYNOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol
- Yn deall ystyr darpariaeth gwricwlaidd effeithiol
- Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
- Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
- Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
- Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
- Sgiliau reoli ymddygiad disgyblion rhagorol
- Defnydd cymwys a hyderus o DGCh
DYMUNOL
- Y gallu i gyfrannu at lwyddiant a gwelliant ysgol trwy brosesau hunan arfarnu
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
- Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf;
- Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol;
- Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
DYMUNOL
- Parodrwydd i gyfrannu tuag at fywyd eang yr ysgol
- Yn datblygu diddordebau personol addas oddi fewn i gymuned yr ysgol
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg - darllen, siarad ac ysgrifennu.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd.
Defnyddir y rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Ysgol Bro Idris
SWYDD DDISGRIFIAD ATHRO/ATHRAWES Cam (Ffês) 2 a 3
DROS DRO CYFNOD MAMOLAETH
Teitl y swydd:
Athro / Athrawes Cam (Ffês) 2 a 3 - disgyblion Blynyddoedd 5 - 11.
Pwnc Dysgu: Mathemateg
Graddfa Cyflog:
Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau
Dyletswyddau Gwaith:
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa gyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol Pennaeth Strategol yr ysgol o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Mae'r prif ddyletswyddau gwaith sydd ynghlwm wrth y swydd hon fel a ganlyn:
[a] Dysgu yn unol ag anghenion addysgol y disgyblion a roddir dan ei
(g)ofal gan gynnwys gosod a marcio gwaith sydd i'w wneud gan y disgybl ar y safle neu ar safle arall.
[b] Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gweithgareddau a dyletswyddau perthnasol er mwyn integreiddio gwaith y dosbarth a gwaith drwy'r ysgol.
Cyfrifoldebau Penodol:
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
- Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl o dan ei (g)ofal. Tynnu sylw'r Pennaeth Cam (Ffês) neu'r Pennaeth Safle at unrhyw broblem.
- Cynnig addysg o'r radd flaenaf i'r disgyblion, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
- Cynllunio a deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a Chwricwlwm am Oes sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i'w hymarfer.
- Cynllunio i addysgu a dysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol yn draws gwricwlaidd.
- Monitro cynnydd academaidd y disgyblion yn ei (g) ofal gan asesu, cofnodi ac adrodd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar ymddygiad, ymdrech, cyrhaeddiad a chynnydd pob disg Hysbysu'r Pennaeth Cam (Ffês) o'r cynnydd neu unrhyw broblem.
- Gynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol;
- Monitro presenoldeb disgyblion.
- Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i'r rhieni yn unol â pholisïau'r ysgol ac yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth Strategol.
- Darparu adroddiadau achlysurol ar gynnydd disgyblion yn ôl y galw.
- Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff yn ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
- Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
- Cyfrannu i'w (d)ddatblygiad personol a phroffesiynol gan fyfyrio, cynnal deialog broffesiynol, mynychu HMS yn ôl y galw a chymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad
- Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Bro Idris i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
- Cydweithio`n effeithiol a pharchus a chyd-gefnogol fel aelod o dîm proffesiynol.
- Cydweithio'n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i gynllunio, gweithredu ac arfarnu gweithrediad y cynllun datblygu maes neu Ffês.
- Cydweithio'n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro safonau gwaith y disgyblion mewn llyfrau a ffeiliau yn rheolaidd.
- Cydweithio'n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro ansawdd yr addysgu a'r dysgu gan hybu addysgu a dysgu effeithiol e.e. triawdau dysgu.
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu'r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru, a datblygu'r dimensiwn Cymreig.
- Gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd neu gymorthyddion sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
- Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.
Cysylltiadau:
Mae deilydd y swydd yn ymatebol i Bennaeth Strategol neu i Bennaeth Cynorthwyol Cam (Ffês) am ddyletswyddau a chyfrifoldebau dysgu ac am dasgau dysgu.
Bydd deilydd y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu a'r addysgu yn yr ysgol yn rheolaidd.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
YN YCHWANEGOL gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau a ganlyn:
[1] Ymgymryd â'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol â Chynllun Datblygu'r Ysgol.
I'w bennu
[2] Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol â Chynllun Gwella'r Ysgol:
I'w bennu.
Gellir newid y swydd-ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb o bryd i'w gilydd.
Yr wyf wedi darllen yr uchod ac yn ymwybodol o'r cynnwys.
Llofnod..............................................Dyddiad.................
Pennaeth............................................Dyddiad.................
Safonau Athrawon wrth eu Gwaith
Nodweddion a gwerthoedd proffesiynol
- Gwerthfawrogi'r amrywiol anghenion sydd gan blant a phobl ifanc.
- Rhoi gwerth ar berthynas deg, barchus, llawn ymddiriedaeth, gefnogol ac adeiladol â phlant a phobl ifanc.
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel o blant a phobl ifanc er mwyn gwella'r deilliannau ar gyfer pob dysgwr a gwella eu lles.
- Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cartref a'r ysgol.
- Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae plant a phobl ifanc yn ei chymryd yn eu cynnydd, eu datblygiad a'u lles eu hunain.
- Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chymryd yng nghynnydd, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
- Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae plant a phobl ifanc yn ei wneud yn eu cymunedau, a'i ddathlu.
- Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill yn ei wneud i ddysgu, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
- Cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau proffesiynol a chymunedau dysgu sy'n rhannu rhagdybiaethau a dealltwriaeth gyda chydweithwyr, ac yn eu treialu, a chyfrannu at ddatblygiad ehangach yr ysgol a'r proffesiwn.
- Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw sicrhau bod ymarfer yn gwella drwy bwyso a mesur a chymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus.
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu'r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru.
Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
- Meddu ar yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf am ddyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon a'r fframwaith statudol y maen nhw'n gweithio ynddo.
- Deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i'w hymarfer.
- Defnyddio dealltwriaeth o ddisgwyliadau, trefniadaeth ac addysgeg y cyfnodau allweddol neu'r cyfnodau cyn a/neu ar ôl y rhai y maen nhw'n eu dysgu fel sail i'w hymarfer a'u cynllunio.
- Deall y ffactorau allweddol sy'n effeithio ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.
- Dealltwriaeth o'r disgwyliadau yn y cwricwlwm mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a/neu Gymraeg ail Iaith a'r dimensiwn Cymreig.
- Parhau i gaffael yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'u pynciau/meysydd cwricwlwm a'r addysgeg berthnasol i'w defnyddio fel sail i'w hymarfer.
- Deall eu rôl i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd a yn draws gwricwlaidd.
- Parhau i gaffael gwybodaeth a dysgu ym maes TGCh i gefnogi'r addysgu a'r dysgu, ac yn eu rôl broffesiynol ehangach.
- Deall Cod Ymarfer AAA Cymru a'i gymhwyso i fodloni amrywiol anghenion dysgwyr.
- Deall pryd y mae'n briodol i ofyn am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan gynnwys gweithdrefnau diogelu plant, a sut mae gwneud hynny.
- Bod yn ymwybodol o strategaethau amrywiol a gwybod sut i'w defnyddio i annog ymddygiad da a chreu amgylchedd dysgu pwrpasol.
- Deall sut y gellid defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc fel sail i'w hymarfer ac i wella deilliannau dysgwyr.
Sgiliau Proffesiynol
Cynllunio a gosod targedau
- Gosod amcanion addysgu a dysgu heriol sy'n cael eu harwain gan ddisgwyliadau deallus am ddysgwyr unigol yn seiliedig ar wybodaeth am safonau disgwyliedig y grŵp oedran perthnasol ac ystod a chynnwys y gwaith sy'n briodol i ddysgwyr yn y grŵp oedran hwnnw.
- Defnyddio'r amcanion addysgu a dysgu hyn i gynllunio gwersi, a chyfresi o wersi, sy'n dangos yn glir sut y bydd gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dysgwyr yn cael eu hasesu.
- Personoli'r dysgu er mwyn rhoi sylw i anghenion unigol gan gynnwys ceisio barn y dysgwyr am beth fyddai o gymorth iddynt gyflawni eu potensial.
- Pennu adnoddau i gefnogi'r dysgu a fydd yn ysgogi ac yn symbylu pob dysgwr i gyflawni'r deilliannau a ddymunir.
- Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm a chydweithio â chydweithwyr i gynllunio gwaith a phennu targedau.
- Cynllunio er mwyn i'r staff cymorth gymryd rhan briodol yn y gwaith o gefnogi'r dysgu a sicrhau eu bod yn deall y rolau mae disgwyl iddynt eu cyflawni.
- Cynllunio cyfleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu mewn lleoliadau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
- Trefnu, rheoli a blaenoriaethu amser yn effeithiol o fewn eu rôl broffesiynol ehangach.
- Sefydlu a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â phlant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr.
Monitro ac asesu
- Defnyddio amrywiaeth o strategaethau monitro ac asesu, gan gynnwys asesiadau ffurfiannol a chyfunol, i werthuso cynnydd y dysgwyr tuag at gyflawni eu hamcanion dysgu, a defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu gwaith cynllunio ac addysgu eu hunain.
- Bodloni'r gofynion a'r trefniadau asesu ar gyfer y pynciau/meysydd cwricwlwm a chyfnodau y maen nhw'n eu dysgu, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag arholiadau a chymwysterau cyhoeddus.
- Defnyddio technegau monitro ac asesu i nodi a chefnogi dysgwyr, gan gynnwys: y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol; dysgwyr sy'n fwy abl a thalentog; dysgwyr sy'n gweithio ar lefel is na'r disgwyl ar gyfer eu hoed; dysgwyr sy'n methu â chyrraedd eu potensial; a dysgwyr ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
- Cynnwys dysgwyr yn y gwaith o osod targedau ac wrth bwyso a mesur eu perfformiad a'i werthuso.
- Monitro a chofnodi cynnydd a chyflawniadau dysgwyr i ddarparu tystiolaeth o ystod eu gwaith, eu cynnydd a'u cyrhaeddiad dros gyfnod o amser, gan ystyried cyfranogiad a safbwynt y dysgwr.
- Rhoi adborth cywir ac adeiladol i ddysgwyr ar eu cryfderau, eu gwendidau, eu cyrhaeddiad, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan gynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella.
- Rhoi adborth amserol, cywir ac adeiladol i gydweithwyr, rhieni a gofalwyr ar gyrhaeddiad dysgwyr, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan ddefnyddio cofnodion ategol a thystiolaeth arall.
Addysgu a rheoli'r dysgu
- Sefydlu a chynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
- Dysgu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol a disgwyliedig sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr, gan wneud defnydd priodol o'r canllawiau cenedlaethol perthnasol.
- Cynnig darpariaeth wedi'i phersonoli effeithiol wrth addysgu, gan gynnwys rhoi ystyriaeth ymarferol i amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
- Herio achosion o ragfarnu, stereoteipio, bwlïo ac aflonyddu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysgol.
- Dysgu gwersi neu gyfresi o waith ag iddynt strwythur clir fel bod pob dysgwr yn deall yr amcanion dysgu arfaethedig, ac yn eu bodloni.
- Defnyddio strategaethau addysgu priodol sy'n datblygu gallu pob dysgwr i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
- Datblygu ar amrywiol brofiadau, cyflawniadau a diddordebau'r dysgwyr i'w helpu i wneud cynnydd.
- Rheoli'r amser addysgu a dysgu yn effeithiol.
- Rheoli'r amgylchedd dysgu ffisegol, yr offer, deunyddiau, testunau ac adnoddau eraill yn ddiogel ac effeithiol.
- Defnyddio strategaethau addysgu priodol i sicrhau ymddygiad cadarnhaol.
- Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
- Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo cynnydd a deilliannau da i ddysgwyr dros gyfnod estynedig o amser.
- Defnyddio TGCh yn effeithiol wrth addysgu a dysgu.
- Annog dysgwyr i wneud cynnydd annibynnol drwy ddarparu gweithgareddau neu gyfleoedd eraill i astudio y tu allan i oriau ysgol, sy'n ategu'r gwaith a wneir yn yr ysgol, ac yn ymestyn arno.
- Cydweithio ag athrawon a chydweithwyr eraill, gan gynnwys y rheini o asiantaethau allanol, i wella dysgu a lles y rheini y maen nhw'n eu haddysgu.
Hyrwyddo dealltwriaeth dysgwyr o natur ddwyieithog Cymru a datblygu eu sgiliau dwyieithog fel sy'n briodol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi