MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Arddangoswr Cyfryngau CC/2542

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr Cyfryngau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: £24,590 - £28,477

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod gennyn ni gyfle ar gyfer Hyfforddwr Arddangoswr Cyfryngau dawnus ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Mae'r swydd hon yn ganolog i'n gwaith o ddarparu profiadau dysgu ymarferol o ansawdd uchel i'n myfyrwyr mewn rhaglenni amrywiol yn ymwneud â'r cyfryngau.

Prif ddiben y swydd yw ennyn diddordeb myfyrwyr a'u hysbrydoli trwy ddarparu sesiynau ymarferol. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol mewn goruchwylio a rhoi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr yn ymwneud ag agweddau ymarferol eu cyrsiau gan sicrhau eu bod yn ennill sgiliau gwerthfawr, byd go iawn. Yn ogystal â hyn byddwch chi'n gyfrifol am ddyletswyddau arferol sy'n gysylltiedig â chynnal safonau uchel o ymarfer yn ein rhaglenni cyfryngau.

Fel Hyfforddwr Arddangoswr bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol wedi'u strwythuro yn uniongyrchol i grwpiau o fyfyrwyr. Mae paratoi yn allweddol; bydd disgwyl i chi baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol gan ddefnyddio'r wybodaeth a roddir i chi gan y cydlynwyr cwrs a darlithwyr. Bydd rhan sylweddol o'ch swydd yn ymwneud â monitro datblygiad myfyrwyr mewn sgiliau ymarferol, presenoldeb, disgyblu a pherfformiad academaidd. Byddwch chi'n asesu eu cymhwysedd, darparu adborth hanfodol ac yn cymryd camau priodol i gefnogi eu datblygiad.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc proffesiynol perthnasol
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
  • Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
  • Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w harfer

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig