MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Rhydypennau

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar fydd yn gyfrifol am gynnal a chodi safonau disgyblion. Mae Rhydypennau yn ysgol hapus a llwyddiannus gyda dros 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych gwybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion y Dysgu Sylfaen, a'r gallu i arwain ar feysydd penodol o'r cwricwlwm.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy'r Gymraeg (sy'n cyfateb â Lefel 5 yn unol â'r fframwaith ALTE yn Gwrando / Siarad, Darllen ac Ysgrifennu) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. I'r perwyl hwn, byddai'r panel cyfweld yn dymuno derbyn ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, neu'n ddwyieithog. Byddai'r gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Bydd disgwyl i chi gyd-weithio'n effeithiol gyda thîm profiadol ac ymroddedig.

Mae deiliad presennol y swydd yn addysgu yn y Dosbarth Derbyn.

Gofynnwn i'r sawl sy'n ymgeisio am y swydd hon i lawr-lwytho a gyrru copi o'r ffurflen gais at gyfeiriad e-bost y Pennaeth isod, yn ogystal â chyflwyno eich cais ar wefan gyrfaoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Croesawn gyswllt blaenorol gan ymgeiswyr, a gallwch drefnu sgwrs neu ymweliad anffurfiol trwy gysylltu â'r Pennaeth, Mr Peter Leggett ar 01970 828608 neu dros e-bost ar p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk

(Ysgol Gymunedol Rhydypennau, Bow Street, Aberystwyth, Ceredigion. SY24 5AD (01970 828608)

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy