Beth yw Iaith Athrawon Yfory?

Mae Iaith Athrawon Yfory yn grant sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg yng Nghymru.

Mae hyd at £5,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglen TAR Uwchradd (Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig) mewn unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, neu i fyfyrwyr sy’n dewis dysgu’r Gymraeg fel pwnc.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Iaith Athrawon Yfory?
Mae’r grant ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn Cwrs TAR Uwchradd llawn amser neu ran amser.

I fod yn gymwys i gael y grant, mae’n rhaid i ti:

  • ddilyn rhaglen gymwys*
  • beidio â bod yn athro cymwysedig yn barod wrth ddechrau astudio tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  • beidio â chael eu cyflogi i ddysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro
  • beidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon yn y gweithle, yn cynnwys TAR cyflogedig (y Brifysgol Agored)

* Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, rhaid iddi:

  • fod wedi’i hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon (Cyngor y Gweithlu Addysg)
  • arwain at Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru
  • alluogi'r myfyriwr i ddysgu mewn lleoliad uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu’r Gymraeg fel pwnc

Sut i gael y grant?

Mae’n rhaid i ti lenwi ffurflen gofrestru erbyn 31 Mawrth yn ystod eich flwyddyn astudio.

Ar ôl hynny, bydd angen llenwi ffurflenni pellach o fewn blwyddyn i ennill SAC, ac eto o fewn blwyddyn i gwblhau’r Cyfnod Sefydlu.

Pryd mae’r taliadau yn cael eu gwneud?

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn dwy ran.

Mae’r taliad cyntaf o £2,500 yn cael ei dalu ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR Uwchradd sy’n arwain at SAC.

Mae’r ail daliad yn cael ei dalu ar ôl cwblhau'r Cyfnod Sefydlu'n llwyddiannus mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, neu wrth ddysgu’r Gymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd yng Nghymru.