Beth yw’r help ariannol ar gyfer pynciau â blaenoriaeth?

Mae’r grant ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ac mae'n adlewyrchu’r meysydd ble mae’r prinder mwyaf o athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae £15,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cwrs TAR Uwchradd (sef cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig) sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar gyfer y pynciau hyn:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Pwy sy’n gymwys i dderbyn y grant?
Bydd y Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn rhoi gwybod i ti os wyt ti’n gymwys ar gyfer y grant ac yn darparu’r dogfennau sydd angen er mwyn ei hawlio.


I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn:


  • fod â gradd 2.2 neu’n uwch
  • bod yn astudio rhaglen cymwys lawn-amser neu ran-amser
  • ddilyn rhaglen gymwys
  • beidio â bod yn athro cymwysedig yn barod wrth ddechrau astudio
  • beidio â chael dy gyflogi i ddysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro
  • beidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon yn y gweithle, yn cynnwys TAR cyflogedig (y Brifysgol Agored)
  • beidio â bod yn dilyn rhaglen addysg bellach o unrhyw fath

Pryd mae’r taliadau’n cael eu gwneud?

Myfyrwyr llawn amser

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn tair rhan.

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf y cwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau’r cwrs TAR yn llwyddiannus a derbyn statws SAC
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses Sefydlu’n llwyddiannus yng Nghymru

Myfyrwyr rhan amser

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn pedair rhan.

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf y cwrs TAR
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn a thymor o’r cwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau’r cwrs TAR yn llwyddiannus a derbyn statws SAC
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses Sefydlu’n llwyddiannus yng Nghymru