Mae Addysgwyr yng Nghymru yn gweithio ar draws ystod eang o sefydliadau:

Os yr ydych am gymryd y cam cyntaf neu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa addysg, Addysgwyr Cymru yw'r lle i chi gael mynediad i wybodaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol i'ch tywys yno.

 

Ble bynnag yr ydych ar eich taith, rydym ni yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu gweithlu addysg amrywiol sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn well.

 

Nid yw gweithio ym myd addysg bob amser yn hawdd, ond mae bob amser yn werth chweil. 

PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?
Serch ein bod yn genedl fechan, mae ein dulliau arloesol a'n huchelgeisiau yn gwneud inni sefyll allan.
  • Mae gan Gymru system addysg o safon fyd-eang ac mae ein cwricwlwm newydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y byd.
  • Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cymru yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i chi weithio ynddynt.
  • Mae gennym hanes cyfoethog, ffordd fywiog o fyw ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth.

 

  • Mae addysg yng Nghymru yn yrfa ac yn alwedigaeth, sydd yn eich galluogi i symud ymlaen wrth gael effaith gadarnhaol ar eraill.
  • Mae addysgwyr yng Nghymru yn mwynhau gyrfaoedd gwobrwyol a boddhaus, yn gyllidol ac yn bersonol.
  • Mae ein dwyieithrwydd hefyd yn gwneud system addysg Cymru a'n dysgwyr yn unigryw.