- Posted by: Educators Wales
Gwybodaeth am Gyfnodau Sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso
Yn y blog hwn byddwn yn trafod y cyfnod Sefydlu statudol y mae’n rhaid i athrawon newydd gymhwyso ei gwblhau gan gynnwys swyddogaeth y cyfnod sefydlu ac o fewn faint o amser mae’n rhaid ei gwblhau.
Pwrpas y Cyfnod Sefydlu
Mae’n ofynnol i bob athro newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru i gwblhau cyfnod sefydlu ar ôl iddynt ennill statws athro cymwysiedig (SAC). Mae’r cyfnod sefydlu yn broses gefnogol sydd yn cynnig cyfleoedd i ANG ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth fel y gallant adeiladu arnynt yn ystod eu gyrfa mewn addysg.
Anghenion y cyfnod sefydlu
Er mwyn ymgymryd â chyfnod sefydlu yng Nghymru mae’n rhaid i ANG gael SAC yn ogystal â bod
wedi cofrestru yng nghategori athro ysgol gyda’r CGA.
Mae’n rhaid i bob ANH gwblhau cyfnod sefydlu o tri tymor ysgol neu gyfwerth; fodd bynnag, mae gan y Corff Priodol (CP) y disgresiwn i leihau hyd y cyfnod i ANG sydd yn gallu arddangos eu bod yn cyrraedd y safonau mewn llai na thri tymor/380 sesiwn.
Dylai pob cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys o un sesiwn ysgol neu fwy, mewn lleoliad addas,
gyfrif tuag at y sefydlu.
Amserlen ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu
Bydd ANG sydd wedi ennill statws athro cymwys (SAC) ar, neu ar ôl, 1 Ebrill 2003, a chyn 7 Tachwedd
2022 a sydd heb ddechrau eu cyfnod sefydlu eto neu sydd wedi ei ddechrau ond heb ei gwblhau, yn
cael pum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau’r cyfnod sefydlu.
Bydd ANG sydd yn ennill SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen yn cael pum mlynedd o’r dyddiad y mae’r
SAC yn cael ei gyflwyno i gwblhau eu cyfnod sefydlu.
Os nad yw ANG yn gallu cwblhau’r cyfnod sefydlu o fewn yr amserlen a roddir, bydd gan y Corff
Priodol (CP) y disgreswn i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu ar gyfer y sawl
sydd wedi ac sydd heb ddechrau’r cyfnod sefydlu pan mae’n fodlon bod rhesymau dilys dros wneud
hynny, a bod yr ANG yn cytuno.
Ymgymryd â’r Cyfnod Sefydlu
Cyn dechrau’r cyfnod sefydlu, mae’n rhaid i ANG gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu i’r CGA. Bydd
rhaid i ANG sy’n derbyn cefnogaeth sefydlu gan ysgol gyflwyno y ffurflen hysbysu sefydlu. Os yw’r sefydlu yn cael ei gwblhau dwy waith cyflenwi dydd-i-ddydd mae’n rhaid cyflwyno y ffurflen hysbysu
athro cyflenwi byr-dymor.
Unwaith y bydd y ffurflen benodol yn cael ei derbyn a’i brosesu gan y CGA bydd mynediad i’r proffil
sefydlu ar-lein yn cael ei ddarparu. Bydd rhaid i ANG sy’n ymgymryd â gwaith cyflenwi dydd-i-ddydd
gofnodi eu sesiwn cyntaf o waith cyflenwi gyda’r CGA cyn y gallant gael mynediad i’w proffil sefydlu.
Yn ystod y cyfnod sefydlu, mae gan pob ANG yr hawl i gefnogaeth safon-uchel a chyngor gan fentor.
Mae ANG sydd yn gyflogedig am amser hysbys o fewn ysgol neu uned cyfeirio disgyblion yn cael eu
cefnogi gan fentor sefydlu a gwiriwr allanol. Bydd ANG sydd yn cwblhau sefydlu drwy waith cyflenwi
dydd-i-ddydd yn cael eu cefnogi gan fentor allanol.
Drwy gydol y cyfnod sefydlu, mae’n rhaid i ANG gasglu tystiolaeth i arddangos eu datblygiad wrth
gyrraedd y safonau proffesiynol ac i alluogi asesiad ar ddiwedd y cyfnod sefydlu.
Mae’r dystiolaeth yn cael ei gofnodi yn y proffil sefydlu ar-lein a dylai gael ei gynnal drwy gydol y cyfnod sefydlu.
Bydd mynediad i’r proffil sefydlu ar gael i’r mentor sefydlu, mentor/gwiriwr allanol, a’r Corff Priodol,
a bydd yn rhan allweddol o’r dystiolaeth a gaiff ei ystyried yn yr asesiad a’r ardystiad terfynol ar
ddiwedd cyfnod sefydlu yr ANG.
Mae mwy o wybodaeth ar ymgymryd â sefydlu i’w gael ar wefan y CGA neu drwy ebostio datblygiadproffesiynol@cga.cymru