Mae Ap Prentis yn 'Asiantaeth Hyfforddi Prentisiaethau' (ATA) sy'n cyflogi prentisiaid, yn eu gosod gyda chwmnïau cynnal ac yn gofalu am delerau ac amodau eu contract cyflogaeth.
Ein nod yw gosod prentisiaid mewn cyflogaeth gynaliadwy, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi o safon ac sydd o fewn yr ardal leol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau atgyfeirio lleol, darparwyr hyfforddiant a cholegau i sicrhau bod rhaglenni prentisiaeth a hyfforddeiaethau wedi'u cynllunio i uwchsgilio pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.