EIN CYFEIRIADAU:
- Ysgol Treffynnon
- Ysgol Treffynnon
- Treffynnon
- Sir y Fflint
- CH8 7EN
Amdanom Ni
Ysgol sy'n gofalu am bob unigolyn yw ein hysgol ni. Deallwn yr effaith mae lles emosiynol a chorfforol yn ei gael ar allu ein disgyblion i ddysgu'n effeithiol a chyflawni eu llawn botensial fel dinasyddion moesol gwybodus yn ein cymunedau lleol ac ehangach.
Rydym yn ysgol gynhwysol a roddir pwyslais ar gydweithio â'r gymuned leol i roi'r cychwyn gorau mewn bywyd i'n myfyrwyr. Estynnwn groeso i bobl ifanc yma beth bynnag yw eu crefydd , ethnigrwydd neu allu academaidd. Rhoddir pwyslais ar annog pob unigolyn i lwyddo trwy ddarparu awyrgylch cefnogol sy'n ei gynnal a'i feithrin i gyflawni ei botensial.
Bydd ein myfyrwyr yn profi'r cyffro o ddysgu a llwyddo; rhoddir amser iddynt ddatblygu a meithrin eu sgiliau creadigol, academaidd ac athletaidd. Ein nod yw i annog ein myfyrwyr i ddatblygu dyheuadau, dygnwch ac hyder er mwyn eu harfogi i fanteisio ar bob cyfle mewn bywyd i wireddu eu breuddwydion.
Rydym yn gymuned glos sy'n cydweithio'n dda gan ddangos parch, amynedd a dealltwriaeth tuag at ein gilydd. Ymfalchiwn yn ein hunigolrwydd a'n hamrywiaeth ddiwylliannol ac ymdrechwn i feithrin ein nodweddion ac anghenion arbennig sy'n gwneud pob un ohonom yn unigryw.