Ysgol Eifionydd

Ysgol Eifionydd
Secondary School
EIN CYFEIRIADAU:
  • Ysgol Eifionydd
  • YSGOL EIFIONYDD
  • Porthmadog
  • Gwynedd
  • LL49 9HS
Amdanom Ni
Sefydlwyd yr ysgol yn 1894 ac mae gan yr ysgol draddodiad hir fel sefydliad llwyddiannus a hapus.

Mae'r ysgol yn cynnig addysg i ddisgyblion rhwng 11 a 16 mlwydd oed ac yn gwasanaethu trefi Porthmadog, Cricieth a phentrefi gwledig yr ardal.

Ein gweledigaeth yw sicrhau disgyblion dwyieithog hyderus sy'n cyrraedd y safonau uchaf posib trwy ymdrech parhaus, cydweithio a pharchu eraill. Ein neges i'n disgyblion ydy BYDDWCH YN RHAGOROL!

Byddwn yn cefnogi ein disgyblion i fod yn yn ddisgyblion hyderus sy'n rhoi o'u gorau gyda'r gallu i ddysgu yn annibynnol â'r meddylfryd o ddatblygu eu hunain; i fod yn ddisgyblion sy'n barod i gydweithio gydag eraill, cefnogi ei gilydd a pharchu pawb;
drwy sicrhau cwricwlwm addas a diddorol i ddisgyblion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae gan yr ysgol ethos groesawgar a chefnogol.

Dewi Rhys Bowen
Pennaeth