EIN CYFEIRIADAU:
- Ysgol Gynradd Cwmclydach
- Tonypandy
- Rhondda Cynon Taf
- CF40 2BQ
Amdanom Ni
Yn Ysgol Gynradd Cwm Clydach, rydyn ni o'r farn bod pob teulu yn cael ei werthfawrogi yn rhan annatod o'n cymuned.
Rydyn ni'n ymfalchïo mewn creu amgylchedd diogel lle mae ein plant yn cael eu herio i dyfu'n unigolion hyderus ac unigryw sy'n dangos dyfalbarhad a pharodrwydd i ddod yn ddysgwyr gydol oes. Rydyn ni'n annog optimistiaeth drwy ddathlu bod yn uchelgeisiol, gan gofio bod camgymeriadau'n brawf ein bod ni'n ceisio.
I ni, mae llwyddiant yn golygu bod ein plant yn credu mewn cyrraedd eu llawn botensial, wrth ddangos parch, caredigrwydd a gonestrwydd bob amser, gan werthfawrogi a deall y gwahaniaethau ledled Cymru a'r byd.
Mae Ysgol Gynradd Cwm Clydach yn le i'n plant allu teimlo'n hapus a diogel. Yma rydyn ni'n annog pob plentyn i 'GREDU a byddan nhw'n CYFLAWNI!'
Mae disgyblion, llywodraethwyr a staff ein hysgol i gyd yn gweithio'n eithriadol o galed ar y cyd i sicrhau bod ein hysgol yn amgylchedd hapus, diogel a llwyddiannus. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'n cymuned leol drwy brosiectau amrywiol sy'n cael eu cynnal yn yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Cwm Clydach wedi'i lleoli ar Stryd y Wern ac mae mynediad ati drwy'r fynedfa ar Yr Heol Fawr.