EIN CYFEIRIADAU:
- Ysgol Bro Banw
- Ysgol Bro Banw
- Rhydaman
- Carmarthenshire
- SA18 2NF
Amdanom Ni
Mae Ysgol Bro Banw yn ysgol hapus ac mae hyn yn deillio o'n hethos cynnes, croesawgar a chynhwysol. Ein nod yw ein bod ni, fel ysgol, yn darparu amgylchedd gofalgar ac ysgogol ar gyfer eich plentyn. Rydym yn meithrin y plant ac yn datblygu perthynas gynnes ac ymddiriedus gyda phob plentyn. Rydym yn gwerthfawrogi pob plentyn yn gyfartal ac yn eu trin fel unigolion. Ymdrechwn i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i ystod eang o gyfleoedd dysgu, er mwyn eu galluogi i dyfu i fod yn bobl ifanc annibynnol a chyfrifol.