EIN CYFEIRIADAU:
- Ysgol Glan Clwyd
- Ysgol Glan Clwyd
- Llanelwy
- Denbighshire
- LL17 0RP
Amdanom Ni
Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol 11-18 oed gyda thraddodiad o ddarparu profiadau ac addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd i ddisgyblion gan eu paratoi i fod yn ddinasyddion dwy ieithog medrus ar gyfer ein cymuned ein hunain a thu hwnt. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru ac ymfalchiwn yn y fraint o ddatblygu plant ac oedolion ifanc 11-18 oed Sir Ddinbych i fod yn ddinasyddion cwbl ddwyieithog. Daw disgyblion atom o ardaloedd arfordirol hardd yng Ngogledd y sir ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth. Pob un ohonynt gyda'u toreth o acenion Cymreig sydd yn cyfoethogi ein profiad o'n hiaith ac yn dathlu ein hamrywiaeth Cymreig o dan un to!