Itec Skills and Employment yw un o brif ddarparwyr annibynnol o wasanaethau cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru.
Rydym yn cefnogi dysgwyr a chyflogwyr drwy ein cyfres o raglenni di-dâl fel Prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru Plws) sy'n sail i lawer o'r strategaethau datblygu economaidd craidd sydd ar waith ledled y wlad.
Gan weithio ledled Cymru rydym yn cefnogi dros 1000 o gyflogwyr a 5000+ o ddysgwyr bob blwyddyn drwy amrywiaeth o wasanaethau hyfforddiant a chyflogaeth. Mae ein llwyddiant wedi'i adeiladu o amgylch recriwtio pobl dalentog sy'n gweithio i set gyson o werthoedd craidd.
Fel sefydliad 'employee owned'., mae ein statws unigryw yn caniatáu i'n gweithwyr gael mwy o ymgysylltiad a pherchnogaeth yn nhwf a llwyddiant Itec yn y dyfodol. Rydym yn angerddol am ein pobl ac yn gydweithredol yn y ffordd rydym yn gweithio, gyda cyfle i bawb ddweud ei dweud ar y cyfeiriad y mae'r busnes yn mynd iddo.
Mae ein ethos yn syml, rydym yn helpu unigolion i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd drwy baru eu sgiliau â chyflogwyr lleol. Alinio'r cyflenwad a'r galw fel hyn yw'r unig ffordd o sicrhau bod ein rhaglenni yn ystyrlon, yn effeithiol, yn werthfawr ac yn gynaliadwy i unigolion a chyflogwyr.
Swyddi diweddaraf yn Itec Training Solutions Limited
Itec Training Solutions Limited
Youth Tutor (Barry)
Barry, Cardiff, CF63 4EE
Tiwtor Ieuenctid
Due to our continued business growth and the successful first year of the JGW+ contract, as we move…