Ysgol Gyfun Caerllion

Caerleon Comprehensive School
Secondary School
EIN CYFEIRIADAU:
  • Ysgol Gyfun Caerllion
  • Ysgol Gyfun Caerllion
  • Casnewydd
  • Newport
  • NP18 1NF
Amdanom Ni
Y mae Ysgol Gyfun Caerllion yn gymuned ddysgu sy'n ffynnu. Ar hyn o bryd yr ydym yn rhoi mynediad i 248 o ddisgyblion i bob blwyddyn ysgol ac y mae cymuned ddysgu ôl-16 lewyrchus, arbenigol gyda mwy na 300 o ddysgwyr. Daw myfyrwyr yn aml o'r ardal leol, tra bo rhai'n dewis teithio i'n hysgol. Ein prif nod yw i sicrhau rhagoriaeth i bawb mewn amgylchedd dysgu diogel ble mae pob dysgwr yn gwneud cynnydd da ac yn profi'r ansawdd uchaf o ddysgu ac addysgu. Ein blaenoriaeth yw i sicrhau ein bod yn adeiladu ar seiliau cryf a pharhau i anelu at fod yn rhagorol ym mhob agwedd o fywyd ysgol fel y gall pob unigolyn wireddu eu llawn botensial yn eu datblygiad academaidd, creadigol, personol, corfforol, moesol ac ysbrydol. Yr ydym yn gymuned ysgol uchelgeisiol gyda disgwyliadau uchel o'n hunan yn ogystal
â'n dysgwyr.

Y mae'r staff yn Ysgol Gyfun Caerllion yn dalentog, yn weithgar dros ben ac yn hynod ymroddedig i helpu'n disgyblion i wireddu eu dyheadau. Caiff staff cynnal a staff addysgu eu gwerthfawrogi'n gyfartal am eu cyfraniad tug al lwyddiant yr ysgol a rhoddwyd cymaint o werth ar waith tîm, gydag arweinwyr ar flaen hybu a datblygu timau effeithiol.