EIN CYFEIRIADAU:
- Nia Wyn Jones
- Yr Wyddgrug
- Sir y Fflint
- CH7 1JB
Amdanom Ni
Mae Ysgol Maes Garmon yn gorwedd yng nghanol tref Yr Wyddgrug ac yn darparu addysg o'r safon orau i bron i 600 o ddisgyblion. Fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint-sy'n cael ei bwydo gan bump o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg-rydym yn cynnig addysg hollol ddwyieithog i'n holl ddysgwyr. Gall dysgwyr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ymuno â'r Cwrs Trochi yn Ysgol Maes Garmon ym mlwyddyn 7 er mwyn dysgu Cymraeg dan ofal athrawon iaith arbenigol.
Mae pob dysgwr yn Ysgol Maes Garmon yn cael ei ystyried fel unigolyn sy'n aelod pwysig o 'deulu' Maes Garmon. Mae'r egwyddor sylfaenol yma o barchu pob unigolyn a blaenoriaethu anghenion yr unigolyn yn sail i holl ethos yr ysgol ac wrth wraidd ein gwerthoedd a'n llwyddiant. Mae ein dysgwyr yn falch o fod yn aelodau o'r 'teulu' yma, yn falch o'u Cymreictod a'u dwyieithrwydd, ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i Gymru a thu hwnt.
Mae ethos gofalgar, agored a hapus lle mae dysgwyr yn teimlo'n gartrefol ac yn ffynnu wedi bod yn un o gryfderau'r ysgol erioed. Mae ein hathrawon yn mynd yr ail filltir i gynnig amrywiol gyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr er mwyn iddynt gael profiadau ehangach.
Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol am unrhyw wybodaeth bellach.
01352 750678