Esgobaeth Llanelwy

Diocese of St Asaph
Charity
EIN CYFEIRIADAU:
  • Esgobaeth Llanelwy
  • Llanelwy
  • Cymru Gyfan
  • LL17 0RD
Amdanom Ni
Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru, yn dalaith annibynnol sy'n rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd. Gwahanodd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr yn 1920 ac mae'n dathlu canmlwyddiant ei sefydlu yn 2020.

Mae mwy na 7,000 o bobl o bob rhan o'r gogledd ddwyrain a'r canolbarth yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gwasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau yn y 228 o eglwysi sy'n ffurfio'r esgobaeth. Mae'n cwmpasu Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Wrecsam, hanner Sir Conwy a rhannau o Wynedd a Phowys.

Mae'r esgobaeth yn ffordd hynafol o drefnu'r eglwys a'i ystyr yn syml yw ardal (ddaearyddol fel arfer) dan ofal Esgob. Gregory Cameron yw 79ain Esgob Llanelwy.

Dydych chi fyth fwy nag ychydig filltiroedd i ffwrdd o un o eglwysi gweithredol yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Llanelwy, ac mae croeso cynnes yn eich disgwyl lle bynnag y dymunwch chi fynd.