Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Swansea City AFC Foundation
Youth Organisation
EIN CYFEIRIADAU:
  • Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
  • ABERTAWE
  • Swansea
  • SA12FA
Amdanom Ni
YR Elyrch, GWEITHIO YN EICH CYMUNED

Mae Sefydliad CPD Dinas Abertawe wedi bod yn gweithio wrth galon y gymuned am y 15 mlynedd diwethaf a mwy.

Fel cangen elusennol y clwb, rydym yn ymdrechu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl o bob cefndir o bob rhan o Dde Orllewin Cymru.

Cawn ein cefnogi'n bennaf drwy grantiau o Gronfa Elusennol yr Uwch Gynghrair i gyflawni amrywiaeth o fentrau a amlinellir yn y ddogfen hon.

Ein cenhadaeth yw defnyddio Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel grym ar gyfer newid cadarnhaol yn ein cymunedau, gan greu'r amodau sydd eu hangen i gymunedau ffynnu. Ein nod yw gwneud hyn drwy:

Meithrin Ffyniant - ysbrydoli cyflawniad addysgol ac ysbryd entrepreneuraidd
Datblygu Gwydnwch - cynnig profiadau a pherthnasoedd sy'n cefnogi iechyd meddwl ac yn meithrin optimistiaeth
Gwella Iechyd - annog cariad at ymarfer corff a bwyd iach
Cefnogi Cynwysoldeb - cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig a gweithio dros gydraddoldeb a chynhwysiant
Tyfu'r Sefydliad yn gynaliadwy - sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor yr Elusen a rheoli ei heffaith amgylcheddol