MANYLION
  • Posted by: Educators Wales

Blog Beth yw Diogelu

Blog Beth yw Diogelu

Yn y blog hwn, byddwn yn trafod beth yw diogelu, beth yw swyddogaeth amddiffyn plant o fewn diogelu a gwybodaeth bwysig y mae’n hanfodol i’r rheiny o fewn y sector addysg wybod am eu cyfrifoldebau diogelu.

Os ydych chi’n gweithio o fewn y sector addysg mae’n bwysig eich bod yn deall eich dyletswydd i amddiffyn plant a’u cadw yn ddiogel o unrhyw niwed. Tra bod y syniad o ddiogelu yn hynod ddifrifol, nid ydym eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich llethu gan y categorïau amrywiol a geir o fewn diogelu. Gobeithiwn y bydd y blog hwn yn cynnig eglurhad cryno o ddiogelu, materion diogelu gwahanol a manteision ymyrryd cynnar.

 

Beth yw Diogelu?

Mae canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel (CDD) Llywodraeth Cymru yn cynnwys y diffiniad hwn yn eu canllaw;  “Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.” Mae hyn yn cynnwys:

  • Amddiffyn plant rhag gamdriniaeth
  • Atal niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • Sicrhau bod plant yn tyfu gyda darpariaeth gofal diogel ac effeithiol
  • Gweithredu er mwyn galluogi i bob plentyn a pherson ifanc gael y canlyniadau gorau

 

Y Gwahaniaeth rhwng Amddiffyn Plant a Diogelu

Mae sefydliad elusennol NSPCC yn egluro bod amddiffyn plant yn derm sydd yn dod o dan ymbarel diogelu.

Mae amddiffyn plant yn canolbwyntio ar “amddiffyn plant unigol sydd wedi eu hadnabod fel rhai sydd yn dioddef neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol. Mae hyn yn cynnwys prosesau amddiffyn plant sydd yn amlinellu sut i ymateb i bryderon am blentyn.”

Tra mai diogelu yw “yr weithred a weithredir i hyrwyddo llesiant plant a’u hamddiffyn rhag niwed.”

Dyletswydd eich Sefydliad

Mae’n hanfodol bod gan bob sefydliad a mudiad sydd yn gweithio yn uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus bolisïau a phrosesau diogelu trylwyr. Mae’n rhaid i’r polisïau a phrosesau hyn sicrhau bod gan bob unigolyn yr hawl i gael eu hamddiffyn yn gyfartal rhag niwed beth bynnag fo eu hoedran, anabledd, rhywedd, hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae sefydlu polisïau diogelu trylwyr yn golygu bod y plant a’r bobl ifanc o fewn eich gofal yn cael eu diogelu rhag niwed a rhag oedolion eraill neu blant all fod yn beryglus iddynt. Mae sefydliadau a ddylai gael polisïau diogelu yn cynnwys:

  • Ysgolion
  • Cyfleusterau gofal plant eraill
  • Ysbytai
  • Clybiau chwaraeon
  • Sefydliadau a chlybiau gwirfoddol
  • Sefydliadau a chlybiau cymunedol
  • Grwpiau ffydd
  • Darparwyr y sector breifat

 

Cymorth Cynnar / Ymyrriad Cynnar

Elfen bwysig o ddiogelu yw’r syniad o gynnig cymorth cynnar neu ymyrriad cynnar ble mae plant a phobl ifanc yn cael cynnig cefnogaeth cyn eu bod yn cyrraedd stad o argyfwng yn eu llesiant a diogelwch cyffredinol.

Mae’r  Early Intervention Foundation yn diffinio ymyrriad cynnar fel “adnabod a chynnig cefnogaeth gynnar effeithiol i blant a phobl ifanc sydd yn wynebu risg o ganlyniadau gwael.”

Gall enghreifftiau o ymmyriad cynnar gynnwys:

  • Rhaglenni o fewn yr ysgol i wella sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant
  • Rhaglenni cefnogaeth gan y llywodraeth ar gyfer dysgwyr difreintiedig er enghraifft prydau ysgol am ddim
  • Rhaglenni mentora ar gyfer pobl ifanc sydd yn fregus i fod yn ymwneud â throsedd

Mae ymyrriad cynnar hefyd yn cynnwys sefydliadau sydd yn dangos agwedd rhagweithiol tuag at ddiogelu ac atal problemau i ddigwydd yn y dyfodol yn hytrach nag ymateb pan mae pryderon diogelu yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio at faterion sydd yn ymddangos yn fach cyn iddynt ddatblygu i fod yn broblemau diogelu enfawr. Er enghraifft:

  • Os oes gan fachgen lygad ddu, gall hyn fod yn ddamwain neu yn arwydd o gamdriniaeth yn y cartref
  • Os yw plentyn yn dod i’r ysgol heb gôt yn y gaeaf, gallant fod yn anghofus, neu gall fod yn arwydd bod y plentyn yn cael eu hesgeuluso
  • Mae merch ifanc yn dechrau gwisgo gemwaith sy’n ymddangos yn ddrudfawr, gallant fod newydd ddathlu eu penblwydd, neu gallant fod yn ddioddefwr o ‘grooming’ neu fagu perthynas amhriodol
  • Gall criw o blant yn pryfocio disgybl newydd ddatblygu i fod yn fwlio cas
  • Gall bechgyn sydd yn tynnu gwalltiau merched neu geisio edrych i fyny eu sgertiau arwain at broblemau o gamdriniaeth plentyn-ar-blentyn neu wrywdod gwenwynig (toxic masculinity)

 

Mae elfen arall o ymyrriad cynnar hefyd yn ymwneud ag addysgu disgyblion ar faterion penodol er mwyn atal pryderon diogelu penodol megis:

  • Addysgu plant am ddiogelwch ar-lein er mwyn atal ‘grooming’ neu gynnal perthnasau amhriodol a pherygl dieithriaid ar-lein
  • Addysgu plant a phobl ifanc am berthnasau ac addysg rhyw i newid agweddau at gysyniad, pwysau gan gyfoedion, beio dioddefwyr a gwrywdod gwenwynig (toxic masculinity)
  • Addysgu plant ar y ddeddf hawliau dynol i atal gwahaniaethu tuag at unigolion

 

Mathau o Bryderon Diogelu

Mae sawl math o bryder diogelu i gadw lygad arnynt o fewn y sector addysg. Nid yw’r rhestr hwn yn derfynol o gwbl ond mae’n cynnig syniad o fathau gwahanol o faterion a phryderon diogelu y gall plant a phobl ifanc eu wynebu heddiw.

  • Camdriniaeth gan gynnwys corfforol, emosiynol, meddyliol, rhywiol ac esgeulustod
  • Bwlio gan gynnwys ar-lein a wyneb yn wyneb
  • Camdriniaeth plentyn-ar-blentyn a rhwng cyfoedion gan gynnwys pwysau gan gyfoedion
  • Pryderon iechyd meddwl a llesiant megis iselder, straen, gorbryder
  • Diogelwch ar-lein
  • Perthnasau amrhiodol neu ‘grooming’
  • Camdriniaeth
  • Ymddygiad rhywiol peryglus
  • Perygl dieithriaid
  • Anhwylderau bwyta
  • Anawsterau dysgu megis ADHD, Awtistiaeth a Dyslecsia
  • Hunan-anafu
  • Hunanladdiad
  • Trais yn ymwneud â gangiau
  • Rhedwyr cyffuriau a llinellau sirol
  • Cyhuddiadau o ymosod
  • Cyhuddiadau yn erbyn aelodau o staff
  • Pryderon lefel-isel am aelodau o staff
  • Camdrin sylweddau
  • Egsbloetio Rhywiol Troseddol ERT
  • Egsbloetio Plant Troseddol EPT

 

Diogelu yng Nghymru

Mae gan bob cenedl yn y Deyrnas Unedig gyfreithiau a deddfau diogelu ychydig bach yn wahanol. Yng Nghymru, mae deddf lywodraethol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, yn amlinellu y cyfreithiau digoleu ac amddiffyn plant y mae’n rhaid eu dilyn gan bob ysgol, coleg, corff llywodraethu ac awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r canllawiau yn rhannu i wyth adran:

  1. Ynghylch diogelu yng Nghymru
  2. Swyddogaethau a chyfrifoldebau diogelu
  3. Ymateb i bryderon
  4. Diogelu mewn amgylchiadau penodol
  5. Cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd, trais rhywiol ac arferion diwylliannol niweidiol
  6. Cadw plant yn ddiogel ar-lein
  7. Cydlyniant Cymunedol
  8. Arferion recriwtio staff mwy diogel

Ar gyfer ysgolion a cholegau mae’r canllaw yn amlinellu y pethau:

  • Sydd yn  rhaid eu gwneud oherwydd mai dyna’r gyfraith; a,
  • Dylent ei wneud oherwydd mae’n rhan o’r canllaw hwn.

Mae hefyd yn rhoi enghreifftiau o arferion da y gall sefydliadau eu dilyn.

Sut y Gallwch Chi Gadw Plant a Phobl Ifanc yn Ddiogel

Y prif gyfrifoldeb sydd gennych fel addysgwr yw i adrodd unrhyw bryderon diogelu sydd gennych i’r Unigolyn Diogelu Dynodedig yn eich ysgol neu goleg. Bydd gan bob sefydliad ei brosesau a systemau ei hun mewn lle i gofnodi, adrodd a rheoli pob math o bryderon diogelu.

Fel addysgwr, byddwch yn aml yn treulio mwy o amser gyda phlant a phobl ifanc nag y mae eu rhieni yn ei wneud. Rydych mewn sefyllfa dda i gymryd sylw o bob math o bryderon a materion. Mae ymyrriad cynnar a rhoi cymorth i’r disgyblion hyn yn dibynnu ar eich gallu i adnabod a chymryd sylw o unrhyw bryderon a’u rhannu.

 

Hyfforddiant Diogelu

Nid yw’r blog hwn yn addas i’w dderbyn fel hyfforddiant diogelu statudol mewn unrhyw ffordd. Yng Nghymru, mae hyfforddiant diogelu yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o staff sydd yn gweithio gyda phlant neu bobl ifanc mewn amgylchedd addysgol ac yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn ogystal ag mewn swyddogaethau yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.