Beth yw’r help ariannol ar gyfer myfyrwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol?

Mae’r grant yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru, fel bod gan ddysgwyr Cymru weithlu addysg mwy amrywiol.

Mae £5,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cwrs TAR (sef cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon ôl-raddedig) sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Pwy sy’n gymwys i dderbyn y grant?
Os hoffet drafod a wyt ti’n gymwys neu wneud cais am y grant, mae angen i ti gysylltu â’r Partneriaeth AGA. Galli di fod yn astudio cwrs TAR uwchradd neu gynradd ar gyfer y grant hwn ac mae’r grant ar gael os wyt ti’n astudio’n llawn amser neu’n rhan amser.
I fod yn gymwys i gael y grant, mae’n rhaid i ti:
  • ddilyn rhaglen gymwys*
  • beidio â bod yn athro cymwysedig yn barod wrth ddechrau astudio
  • beidio â chael dy gyflogi i ddysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig (Y Prifysgol Agored)
  • beidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon yn y gweithle, yn cynnwys TAR cyflogedig (y Brifysgol Agored)
  • uniaethu fel myfyriwr o un o’r grwpiau ethnig canlynol:

Asiaidd, Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd, Grwpiau cymysg neu aml-ethnig, Arabaidd, Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig, Roma

* Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, rhaid iddi:

  • fod yn rhaglen AGA ôl-raddedig lawn-amser neu ran-amser, gynradd neu uwchradd yng Nghymru, sydd wedi'i hachredu, ac sy'n arwain at SAC

Pryd mae’r taliadau’n cael eu gwneud?

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn dwy ran.

Mae’r taliad cyntaf o £2,500 yn cael ei dalu pan fydd y myfyriwr wedi llwyddo i gwblhau cwrs TAR a chael statws SAC.

Mae’r ail daliad o £2,500 yn cael ei dalu ar ôl i’r myfyriwr gwblhau'r Cyfnod Sefydlu'n llwyddiannus Nghymru.

Am fwy o gwybodaeth cliciwch yma.