Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Quality Mark for Youth Work
Independent Regulator
EIN CYFEIRIADAU:
  • Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid
  • Eastgate House
  • Caerdydd
  • Cymru Gyfan
  • CF24 0AB
Amdanom Ni

Rydym yn gweinyddu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru a Chylch Asiantaethau Hyfforddiant Cymru.

Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill marc ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen wahanol:

  • cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel adnodd ar gyfer hunanasesu a gwella
  • marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol i ddangos rhagoriaeth sefydliad

Mae 34 o sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer asesiad allanol y Marc Ansawdd, cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb.

 

Ystyried cymryd rhan yn y Marc Ansawdd?

Mae ein modiwl e-ddysgu wedi ei greu i helpu adeiladu ar eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam ei fod yn bwysig a’i gynnwys. Dechrau’r modiwl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom: marcansawdd.gwaithieuenctid@cga.cymru