Cwmni Urdd Gobaith Cymru

Cwmni Urdd Gobaith Cymru
Charity
EIN CYFEIRIADAU:
  • Cwmni Urdd Gobaith Cymru
  • Cymru
  • Cymru Gyfan
  • LL23 7ST
Amdanom Ni

Wyt ti'n awyddus i ddatblygu dy yrfa drwy ennill profiad a chymwysterau?

Mae'r Urdd yn cynnig dau fath o brentisiaeth. Fe alli di gwblhau cwrs prentisiaeth wrth barhau yn dy swydd bresennol, neu dere i weithio gyda'r Urdd llawn amser fel prentis. Bydd dy gyfnod fel prentis yn para rhwng 15 - 21 mis, yn ddibynnol ar dy gwrs dewisol, ac ar ddiwedd y cyfnod yma fe fydd gen ti gymwysterau Lefel 2 neu 3 sy'n cael eu cydnabod o fewn y byd gwaith ledled y DU. 

Cynigir yr hyfforddiant yma am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog i unigolion ledled Cymru trwy ein Cynllun Prentisiaeth. Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly nid oes unrhyw gost i chi. 

 

Cwblhau prentisiaeth o fewn dy swydd: 

Does dim rhaid gweithio i'r Urdd i gyflawni prentisiaeth gyda ni. Rydyn yn cynnig prentisiaethau i bobl dros 18 oed sydd mewn swyddi yn barod. Golygai hyn y gallu di uwch-sgilio, ennill mwy o brofiad a chael cymwysterau newydd wrth barhau yn dy swydd o ddydd i ddydd.

Ac mae'r cyfan am ddim. Bydd dim cost i ti nac i'r cyflogwyr. Bydd staff profiadol yr Urdd yn darparu’r holl addysg ac yn barod i dy gefnogi pob cam o’r ffordd. 

Gallwn gynnig prentisiaethau i unhryw un dros 18 oed sy'n gweithio o fewn y meysydd canlynol. Gallwch fod ar ddechrau eich gyrfa neu gyda blynyddoedd o brofiad ond yn chwilio am gymhwyster penodol.

  • Ysgol Gynradd, Uwchradd, Arbennig 
  • Canolfan Hamdden
  • Clwb Chwaraeon 
  • Canolfan Awyr Agored 
  • Meithrinfa 
  • Clwb Ieuenctid

Os wyt ti'n gweithio mewn un o'r gweithleoedd uchod, cysyllta heddiw i ddechrau trafod dy opsiynau.

 

Swyddi Prentisiaeth gyda'r Urdd: 

Mae'r Urdd yn cynnig swyddi llawn amser i unrhyw un sydd am ennill profiad, cymwysterau ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Gall unigolion dros 18 mlwydd oed ymgeisio am swydd gyda'r Urdd, ac mae gennym gyfleoedd ar draws Cymru gyfan. Mae gofyn fod gennyt ddiddordeb mewn chwaraeon neu’r awyr agored ac yn barod i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Os yn llwyddiannus, fyddi di'n datblygu dy sgiliau gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Bydd cyfle i bob prentis ddysgu wrth staff profiadol yr Adran Prentisiaethau a’r Adran Chwaraeon er mwyn i ti arwain gweithgareddau o safon uchel ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru.

https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/