Prifysgol Aberystwyth

Aberystwyth University
University
EIN CYFEIRIADAU:
  • Prifysgol Aberystwyth
  • P5
  • Aberystwyth
  • Ceredigion
  • SY23 3UX
Amdanom Ni

Mae’r Ysgol Addysg wedi datblygu rhaglen arloesol, integredig sy’n ymateb i anghenion addysgu athrawon yn yr 21fed ganrif, ac sy’n addysgu ac yn datblygu darpar athrawon i addysgu yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae’r pwyslais hwn ar addysgu ar draws y cyfnodau yn unol â Chenhadaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, yn ogystal â thwf cynyddol ysgolion pob oed.

Yn ogystal â hyfforddiant athrawon Cynradd, mae’r Ysgol yn cynnig Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Uwchradd yn y pynciau canlynol: Bioleg gyda Gwyddoniaeth Gytbwys, Cemeg gyda Gwyddoniaeth Gytbwys, Ffiseg gyda Gwyddoniaeth Gytbwys, Drama, Saesneg, Daearyddiaeth, Hanes, Mathemateg, Ieithoedd Modern a’r Gymraeg. Gan ein bod yn sefydliad dwyieithog, gallwch astudio’r holl bynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Bydd hyn yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud cais am grant cymhelliant cyfrwng Cymraeg y llywodraeth.

Darganfyddwch ein cwrs hyffordddiant athrawon Cynradd. 

Darganfyddwch ein cyrsiau hyfforddiatn athrawon Uwchradd. 

Ar ôl cwblhau’r Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch wedi cael digon o brofiad o ysgolion cynradd ac uwchradd, a fydd yn gwella eich cyfle o gael swydd.

Gwylich ein fideo i ddysgu mwy am ein cyrisau hyfforddiant cychwynnol Athrawon. 

Pam astudio gyda ni?

Mae gan Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth hanes hir a llwyddiannus o ddarparu rhaglenni gradd arloesol ar gyfer darpar athrawon. Ers 1872, mae ein dulliau dysgu trwy ymchwilio ac ymarfer wedi datblygu cenedlaethau o athrawon sydd wedi ysbrydoli disgyblion o bob cefndir i fod yn llwyddiannus.

Gwyliwch ein fideo i ddarganfod mwy am y brifysgol. 

Ein Lleoliad

O gampws Penglais dyw hi’n ddim o dro i lawr y rhiw i dref lan môr hanesyddol Aberystwyth, sy’n aml yn cael ei galw’n brifddinas ddiwylliannol Cymru.

Yma yn Aber mae staff a myfyrwyr o dros 100 o wledydd, ac mae’n ganolfan gosmopolitan gyfeillgar. Fe welwch enwau cyfarwydd y stryd fawr ochr yn ochr â siopau a chaffis annibynnol a’r Farchnad Ffermwyr sydd wedi ennill gwobrau. Mae yma gymuned glos, ac ar ôl dod yma, mae llawer o’n myfyrwyr yn teimlo nad ydynt byth eisiau gadael.

Ac mae'r fro o gwmpas Aberystwyth mor hardd. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n dirwedd brydferth o fryniau tirion, dyffrynnoedd, traethau a'r môr. Ac nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell, chwaith.

Mae'r adeiladau, sy'n glytwaith o bensaernïaeth Fictoraidd llawn lliw a chymeriad, yn cydweddu â'r dirwedd, yn edrych dros ehangder y prom 2km ei hyd. Yma mae myfyrwyr, pobl leol ac ymwelwyr yn cymysgu â gilydd yn cerdded, loncian neu feicio heibio.

Yn ôl yr hen draddodiad, mae myfyrwyr ac ymwelwyr yn 'cicio'r bar' ymhen gogleddol y prom wrth odre'r Graig Glais - neu Gonsti - wrth fynd am dro yn yr awyr iach ar lan y môr.

Mae digon i'w wneud o gwmpas y dre a'r tu hwnt. O fynd am dro o gwmpas y siopau bychain niferus a siopau'r stryd fawr, y caffis a'r bwytai - i archwilio'r atyniadau lleol, sef y Llyfrgell Genedlaethol, Rheilffordd y Graig, y Prom a'r Bandstand, yr Hen Goleg, Adfeilion y Castell, yr Harbwr a mwy.

Cewch ddewis o'r tri thraeth hardd yma: Traeth y Gogledd (sydd wedi ennill y faner las), Traeth y De, a Thraeth Tan-y-bwlch, i chi gael tynnu'ch esgidiau, teimlo'r tywod dan draed, ac os ydych chi'n lwcus, efallai y gwelwch y dolffiniaid. Ac yn yr haf, gallwch fwynhau gwylio'r machlud bendigedig o flaen tân bach neu farbeciw.

Taith Rithwyr Campws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.