Y Brifysgol Agored yng Nghymru

The Open University in Wales
University
EIN CYFEIRIADAU:
  • Y Brifysgol Agored yng Nghymru
  • Caerdydd
  • Caerdydd
  • CF10 1AP
USEFUL LINKS:
Amdanom Ni

Er mwyn dod yn athro, bydd angen ichi gyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy ddarparwr achrededig. Bydd llwybrau TAR cyflogedig a rhan amser arloesol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich cymhwyso i weithio ar lefel ysgol gynradd ac uwchradd, a gallwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, unrhyw le yng Nghymru.  

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol a bron i ddau gant o ysgolion ledled Cymru, rydym wedi creu dau lwybr arloesol i'r proffesiwn addysgu. Mae ein llwybrau TAR cyflogedig a rhan amser unigryw yn cyfuno dysgu ar-lein â chymorth gyda phrofiad ymarferol, o safon, mewn ysgol, dros gymhwyster dwy flynedd o hyd. 

 

Y TAR cyflogedig: 

Mae'r llwybr cyflogedig yn golygu bod modd ichi weithio mewn ysgol ac ennill cyflog wrth astudio. Mae’n berffaith os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol fel cymhorthydd addysgu neu mewn swydd nad yw’n ymwneud ag addysgu. Bydd angen i'ch ysgol gytuno i wneud cais am y llwybr hwn. Byddwch yn astudio eich TAR o amgylch eich dyletswyddau ysgol presennol fel rhan o’ch cyflogaeth lawn amser mewn ysgol, a bydd eich costau astudio yn cael eu talu gyda grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru. Gallwch dal wneud cais ar gyfer y llwybr cyflogedig os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, ond bydd angen ichi fod ag ysgol sy'n barod i'ch noddi, a gallwn ni eich helpu i wneud hyn. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y llwybr hwn. 

Y TAR rhan amser: 

Os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, neu os nad yw'r llwybr cyflogedig yn addas ar eich cyfer chi, mae opsiwn rhan amser ar gael. Mae’r TAR rhan amser ar gael i’w astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn unig. Mae'r llwybr hwn yn berffaith os ydych yn awyddus i astudio'ch TAR o gwmpas eich swydd ran-amser bresennol, neu ymrwymiadau eraill mewn bywyd, fel bod yn rhiant neu ofalwr. Gallwch ariannu’r cwrs hwn eich hun, neu wneud cais am fenthyciad myfyriwr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser i helpu gyda’r costau. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y llwybr hwn. 

  

Pa bynciau allaf eu hastudio? 

Gallwch astudio i ddod yn athro ysgol gynradd drwy’r llwybr cyflogedig a’r llwybr rhan amser.  

Ar y llwybr cyflogedig, gallwch astudio i ddod yn athro ysgol uwchradd yn addysgu Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh ac Ieithoedd Tramor Modern Uwchradd. 

Ar y llwybr rhan amser, gallwch astudio i ddod yn athro ysgol uwchradd yn addysgu Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Saesneg gyda Drama, Saesneg gydag Astudiaethau'r Cyfryngau, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh ac Ieithoedd Tramor Modern Uwchradd.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y pynciau sydd ar gael.  

 

Pam dewis astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru?  

  • Mae cymhwyster TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi'i gynllunio i’w addysgu yng Nghymru ac ar gyfer cwricwlwm Cymru.  
  • Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd, a bydd yn eich paratoi i fentro i’r proffesiwn addysgu. Fel cymhwyster addysgu galwedigaethol, caiff ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, a’i fonitro gan Estyn. 
  • Y Brifysgol Agored yw'r sefydliad academaidd mwyaf yn y DU, ac mae'n arwain y ffordd i weddill y byd o ran dysgu hyblyg o bell. Rydym yn deall pwysigrwydd hanfodol addysg uwch rhan amser, ac wedi cefnogi dysgwyr i gydbwyso’u hastudiaethau gyda gwaith ac ymrwymiadau bywyd eraill ers dros 50 o flynyddoedd. 
  • P'un a ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol mewn rôl nad yw’n ymwneud ag addysgu, neu'n awyddus i newid eich gyrfa, mae hyblygrwydd y TAR gyda'r Brifysgol Agored yn eich galluogi i astudio ar gyfer eich Statws Athro Cymwysedig (SAC) ochr yn ochr â'ch ymrwymiadau presennol. Boed hynny’n swydd, bod yn rhiant neu’n ofalwr, gallwch ffitio eich hyfforddiant addysgu o gwmpas eich bywyd. 
  • Yn y Brifysgol Agored, byddwch yn cael arweiniad arbenigol bob cam o'r ffordd. Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtoriaid cwricwlwm sy’n arbenigwyr ymarferol yn eu maes. Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor mewnol yn yr ysgol a gan ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ymroddedig yma yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, gyda seminarau ar-lein rheolaidd a fforymau myfyrwyr, byddwch yn dod yn rhan o gymuned gadarnhaol, ymgysylltiedig a chefnogol, sydd wedi ymrwymo i’ch gweld yn llwyddo. 

 

Eisiau gwybod mwy?  

Ewch i'n gwefan i ddysgu mwy am y llwybrau TAR cyflogedig a rhan amser, ac i ddarllen cwestiynau cyffredin.  

Gallwch hefyd ymuno ag un o’n digwyddiadau agored TAR, lle byddwch yn clywed gan fyfyrwyr TAR presennol a graddedig, yn ogystal â’n tiwtoriaid cwricwlwm arbenigol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’n tîm TAR arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod pryd fydd y digwyddiad agored ar-lein TAR nesaf yn cael ei gynnal.